Neidio i'r prif gynnwy

GIG75

Mae eleni’n nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG. I ddathlu GIG75, byddwn yma yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn rhannu ystod eang o straeon yn hanu o feysydd a phroffesiynau amrywiol ar draws GIG Cymru trwy gydol fis Gorffennaf, Awst a Medi.

Gyda galw cynyddol ar wasanaethau iechyd yng Nghymru, mae arnom angen pobl fel chi i ddiogelu’n GIG i’r dyfodol.

Mae gennym arweinydd strategol yn y GIG i sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, gyda’r sgiliau priodol, i ddarparu gofal i bobl Cymru.

Byddwn yn rhannu deunydd ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddangos yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael i chi. Byddwn yn amlygu ystod eang o yrfaoedd yn amrywio o gyfleusterau i godio clerigol. Ein nod yw ysbrydoli, datblygu ac ehangu’r gweithlu presennol ac i’r dyfodol ar draws GIG Cymru.

Gyda myfyrdodau a llwybrau gyrfa cadarnhaol, mae pob stori’n tynnu sylw at broffesiwn arbennig ac yn amlygu’r gwerthfawrogiad sydd o'n GIG.

“Meddai rhywun mwy peniog na fi, ‘Os ydych yn mwynhau’ch swydd, ni fydd gennych ddiwrnod o waith yn eich bywyd”, a dyma fy mhrofiad i o’r swydd hon” – Emma Davies

“Dylem ymfalchïo i’r eithaf yn yr hyn mae’r GIG wedi’i gyflawni ers ei sefydlu 75 mlynedd yn ôl a’r llu o fywydau mae’r gwasanaeth hwn wedi’u newid er gwell. Edrychwn ymlaen at weld hyn yn parhau i’r dyfodol” – Laura Moss

“Rwy’n teimlo’n freintiedig o gael dysgu, datblygu a rhannu fy ngwybodaeth a’m profiad yn y maes hwn, a helpu i wella gofal iechyd.” Paul Meredith
 

Ewch i ddarllen rhagor.


Os hoffech chi rannu eich stori a helpu i ysbrydoli gweithlu’r GIG i’r dyfodol, cysylltwch â ni cyn 30 Awst 2023: HEIW.Communications@wales.nhs.uk.

 

Cyhoeddwyd 7 Gorffennaf 2023