Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Prentisiaethau Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd

Fel Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer Fframweithiau Prentisiaeth Iechyd, mae AaGIC yn cynnal adolygiad o Fframwaith Prentisiaethau Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd.

Mae Grŵp Llywio wedi'i sefydlu i symud y gwaith hwn yn ei flaen gyda chynrychiolaeth cyflogwyr o bob rhan o GIG Cymru. Mae'r Fframwaith a adolygwyd bellach yn barod am gyfnod ymgynghori o 4 wythnos cyn cael ei lofnodi gan Lywodraeth Cymru. Byddem yn falch iawn pe gallech gymryd ychydig funudau o'ch amser ac ateb rhai cwestiynau am gynnwys y fframwaith i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion gwasanaethau cymorth gofal iechyd.

Yn ogystal â'r fframwaith drafft ar gyfer adolygu bydd dogfen gymhariaeth EDLS yn darparu gwybodaeth am wahanol ofynion lefel y Sgil Hanfodol Llythrennedd Digidol.

Mae Hysbysiad Ymgynghoriadau a Phreifatrwydd HEIW yn rhoi gwybodaeth ar sut rydym yn rheoli unrhyw wybodaeth a gasglwnBydd yr arolwg yn cau ar 5 Gorffennaf 2021.