Neidio i'r prif gynnwy

Ffordd newydd o hyfforddi ar gyfer meddygon yng Nghymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn lansio rhaglen hyfforddi portffolio hyblyg newydd. Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion meddygol yng Nghymru gymryd rhan mewn cynllun arloesol i ddatblygu diddordebau mewn addysg feddygol ôl-raddedig a gofal iechyd cynaliadwy ochr yn ochr â'u hyfforddiant clinigol. Mae pum swydd cymrodoriaeth ar gael. Dwy gymrodoriaeth ym maes Addysg Feddygol Ôl-raddedig a Tair Cymrodoriaeth ym maes Gofal Iechyd Cynaliadwy.

Mae'r model hyfforddi portffolio hyblyg newydd hwn yn adlewyrchu'r pwysigrwydd rydym yn ei roi ar gefnogi llesiant drwy gynyddu'r cyfleoedd i feddygon dan hyfforddiant yng Nghymru barhau â'u hyfforddiant gyda mwy o hyblygrwydd.

Ochr yn ochr â gwaith clinigol yn y lleoliadau hyfforddi, bydd hyfforddeion yn treulio un diwrnod yr wythnos (neu 20% cyfwerth ag amser llawn) fel Cymrawd Cynaliadwyedd/Addysg Feddygol yn AaGIC ac yn arwain ar feysydd strategol allweddol sy'n ymwneud ag addysg a chynaliadwyedd. Mae'r rhaglen Cymrodoriaeth Gofal Iechyd Cynaliadwy yn caniatáu i hyfforddeion sydd ag angerdd dros gynaliadwyedd i ddatblygu eu sgiliau arwain a meithrin dealltwriaeth unigryw o egwyddorion cynaliadwyedd drwy weithio ochr yn ochr ag uwch arweinwyr o fewn y GIG i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r rhaglen Cymrawd Addysg Feddygol yn caniatáu i hyfforddeion sydd â diddordeb mewn addysg feddygol weithio ochr yn ochr ag uwch arweinwyr ym maes addysg feddygol i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni addysg feddygol strategol yng Nghymru.    

Bydd deiliaid y swydd yn gweithio'n agos gyda thîm y prosiect yn AaGIC, tîm ehangach AaGIC ac amrywiaeth o randdeiliaid ar draws rhaglenni hyfforddi a GIG Cymru yn ehangach. 

Rydym yn awyddus i osod cymrawd i arwain a chefnogi pob un o'r meysydd o flaenoriaeth ganlynol:

  • Addysg, datblygiad a chodi ymwybyddiaeth — gan gynnwys meysydd fel modiwlau’r Cwricwlwm Generig, adnoddau ar-lein ac addysgu ar gyfer hyfforddeion mewn Gofal Iechyd Cynaliadwy.
  • Blaenoriaethau addysg feddygol strategol allweddol, gan gynnwys gweithgarwch sy'n cyd-fynd â meysydd polisi allweddol megis Doctor y Dyfodol a rhaglenni cymorth a datblygiad uwch ar gyfer meddygon sy'n graddio dramor.
  • Gwella Ansawdd Cynaliadwy — integreiddio cysyniadau cynaliadwyedd o fewn prosiectau gwella ansawdd ac addysgu.

Bydd ceisiadau i'r portffolio cymrodoriaethau hwn yn cael eu gwneud gan ddefnyddio Porth Recriwtio Oriel, gyda dyddiad dechrau ar 1 Chwefror 2023. Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor rhwng 1 Medi a 15 Medi. Cynhelir cyfweliadau naill ai ar 5 neu 12 Hydref 2022.

Bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud ceisiadau ar gyfer y ddwy thema cymrodoriaeth os dymunir.

Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais ewch i:

Addysg Feddygol (2 swydd) 

https://www.oriel.nhs.uk/Web/PermaLink/Vacancy/AB8F3C6F       

Gofal Iechyd Cynaliadwy (3 swydd)

https://www.oriel.nhs.uk/Web/PermaLink/Vacancy/B27AE372