Neidio i'r prif gynnwy

Ennillwch arian tra'n dysgu gyda Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd yr RCN ar gyfer nyrsio

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi arwain y gwaith o ddatblygu Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd yr RCN. Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at y rheini sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol lefel 3 neu Fynediad i Nyrsio ond sydd angen rhoi hwb i'w gradd neu ennill profiad cyn gwneud cais i astudio gradd nyrsio.

Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ei bod yn galluogi dysgwyr i ennill cyflog wrth ddysgu trwy weithio rhwng 24 a 30 awr yr wythnos fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, gan ennill profiad gwerthfawr.

Yn ogystal, mae hefyd yn ofynnol i ddysgwyr astudio un diwrnod yr wythnos yn y coleg i ennill eu diploma, lle bydd dysgwyr yn cwblhau llyfr gwaith myfyriol yn cysylltu eu profiad ymarfer â theori. Er mwyn hwyluso’r pontio i addysg uwch, bydd dysgwyr hefyd yn mynychu’r brifysgol un diwrnod y mis.

Mae'r cwrs yn rhedeg am 6 mis ac yn sicr o roi mantais i ddysgwyr wrth sefyll eu cyfweliad gradd nyrsio.

Mae’r rhaglen yn cael ei threialu ar hyn o bryd mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Nyrsio Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Prifysgol De Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae pump o'r chwe dysgwr o fewn y cynllun peilot eisoes wedi'u derbyn ar radd nyrsio.

Dywedodd un o’r dysgwyr “Mae’r cwrs hwn wedi rhoi ail gyfle mewn bywyd i mi. Mae'n gwireddu fy mreuddwyd i fod yn nyrs ar ôl cael fy wrthod cymaint. Mae'r rhaglen wedi newid y syniad mai dim ond ar gyfer rhai pobl y mae nyrsio. Rwyf wedi gweld y gefnogaeth, y deunydd a’r adnoddau cywir a gynigir gan y rhaglen a’r cyfan sydd angen i mi ei wneud yw rhoi fy 100%.”

Dywedodd Owain Jones, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol PDC: “Rydym yn falch o fod yn bartner ar y rhaglen hon ac i gefnogi dysgwyr i addysg bellach a gyrfaoedd.

“Mae gweithio ar y cyd yn rhan allweddol o strategaeth 2030 PDC, gan osod ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.”

Dywedodd Sandy Harding, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru: “Mae RCN Cymru yn cydnabod gwerth llwybrau hyblyg i nyrsio ac mae'n anrhydedd i ni gefnogi'r cynllun hwn. Edrychwn ymlaen at weithio gydag Addysg  a Gwella Iechyd Cymru a cholegau addysg bellach i gynorthwyo dysgwyr sy’n chwilio am gymorth wrth iddynt symud ymlaen i bob maes nyrsio.”

Disgwylir i'r rhaglen redeg eto ym mis Medi 2024. Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen, cysylltwch â Choleg Gwent neu Goleg Caerdydd a'r Fro i ofyn am y gofynion mynediad.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ddod yn nyrs, ewch draw i'n tudalen Ewch i Nyrsio ac edrychwch ar y wybodaeth a'r adnoddau sydd ar gael.