Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i’r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon, ar ran Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II yn gadael gwaddol anghymharol o wasanaeth cyhoeddus o’i hôl, y bu iddi ymroi iddo drwy gydol ei hir oes.
Cofiwn am Ei Mawrhydi fel un a fu’n gefn mawr i'r GIG. Cofiwn hefyd y balchder a deimlasom, ynghyd â chydweithwyr ar draws y GIG yn gynharach eleni, pan roddwyd i ni Groes y Brenin Siôr i gydnabod ein gwaith yn ystod y pandemig a thros y 73 mlynedd diwethaf.
Alex Howells – Prif Swyddog Gweithredol
Dr. Chris Jones – Cadeirydd