Mae rhaglen hyfforddi newydd yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i fabwysiadu dull gwahanol o wneud penderfyniadau clinigol.
Wedi'i ariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae'r hyfforddiant yn defnyddio gwyddoniaeth ymddygiadol – sy'n astudio ymddygiad dynol - i helpu staff sy'n gweithio mewn timau amlddisgyblaethol.
Fe'i cyflwynwyd mewn ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a ganfu fod diwylliant gwrth-risg yn llesteirio newid yn y system iechyd a gofal, ac yn cyfyngu ar benderfyniadau effeithlon ac effeithiol. Weithiau mae angen i ni gofleidio a rheoli risg er mwyn cael y canlyniadau gorau - i gleifion ac i wasanaethau.
Nod yr hyfforddiant ar ffurf gweithdy yw cefnogi newid y diwylliant hwn drwy alluogi clinigwyr i:
Er ei fod yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar, mae'r hyfforddiant eisoes wedi sicrhau nifer o ganlyniadau cadarnhaol i weithwyr clinigol proffesiynol a chleifion gan gynnwys mwy o hyder, llai o amseroedd aros, opsiynau gofal neu driniaeth mwy priodol a chostau triniaeth is.
Dywedodd Prif Weithredwr HEIW Alex Howells: "Yn ystod pandemig COVID-19, camodd ein timau rheng flaen i weithio gyda'i gilydd i gydbwyso risgiau newydd a newidiol i gleifion a staff - yn gyflym.
"Mae'r rhain yn ddulliau y mae angen i ni eu gwreiddio yn ein gwaith bob dydd gan ein bod bob amser yn wynebu risg. Mae'r hyfforddiant hwn yn adeiladu ar ein dysgu diweddar, gan sicrhau bod ein timau, yn y dyfodol, yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd i reoli risg yn gadarnhaol ac yn hyderus".
Yn dilyn llwyddiant y broses gyflwyno gychwynnol, nod AaGIC yw parhau yn ei rôl fel arweinydd system drwy ddarparu'r hyfforddiant i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ledled Cymru.