Neidio i'r prif gynnwy

Dr Caroline Evans o AaGIC yn derbyn Clod y Llywydd gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion

Wythnos diwethaf, cafodd ein Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Eilaidd Ôl-raddedig, Dr Caroline Evans, sydd hefyd yn Anesthetydd Cardiothorasig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Glod y Llywydd gan Goleg Brenhinol yr Anaesthetyddion (RCoA) yn ystod y cyfarfod i Diwtoriaid y Coleg Cenedlaethol.

Dyfarnwyd Clod y Llywydd i gydnabod ei gwaith rhagorol a'i hymrwymiad parhaus yn ei rolau cyfagos fel Cynghorydd Bernard Johnson ar gyfer Hyfforddiant Llai nag Amser Llawn o fewn yr RCoA, a Chadeirydd Pwyllgor Recriwtio'r RCoA.

Ar ôl gweithio ar y Pwyllgor am wyth mlynedd, penodwyd Caroline yn Gadeirydd yn ddiweddar, lle bydd yn parhau i roi cymorth i'r broses recriwtio anaesthetig ledled y DU.

Meddai Caroline, "Mae’n fraint derbyn clod gan Lywydd y Coleg Brenhinol Anesthetyddion am fy ymrwymiad i’r rolau cenedlaethol hyn, ac rwy'n mwynhau gwneud hynny'n llawn. Rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd ac wedi dysgu cymaint wrth weithio o fewn y swyddi arwain hyn. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu dymuniadau caredig".