Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad newydd a fydd yn helpu i lunio gyrfaoedd ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru

Rydym yn lansio'r Diwrnod Datblygu Meddygon dan Hyfforddiant Cymru Gyfan cyntaf yng Nghymru. Nod y diwrnod fydd helpu i leihau gorflinder gwaith a chyfnerthu gweithlu meddygol cynaliadwy.

Mae gorflinder gwaith yn prysur ddod yn fater heriol i feddygon dan hyfforddiant yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar sut y gall meddygon dan hyfforddiant gael gyrfaoedd hyblyg a all helpu i leihau dwyster eu gwaith o ddydd i ddydd.

Yn ystod y digwyddiad, caiff hyfforddeion eu haddysgu ynghylch ffyrdd o gyflwyno newid i ganfod atebion arloesol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus mewn hyfforddiant. Bydd newid yn sgil Arweinyddiaeth Dosturiol yn thema allweddol drwy gydol y dydd.

Dywedodd y meddyg dan hyfforddiant a Chymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru, Nadine McCauley, “Fel hyfforddai mae'n bwysig gwybod bod ein lleisiau'n cael eu clywed gan AaGIC. Mae'r digwyddiad hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad rhwng meddygon dan hyfforddiant ac AaGIC. Calonogol yw gweld bod gyrfaoedd meddygon dan hyfforddiant yn cael blaenoriaeth gan AaGIC, i gynnal meddygon o ansawdd er budd dyfodol gofal iechyd Cymru”.

Mae AaGIC am leihau'r risg o golli staff o ansawdd a thynnu sylw at bwysigrwydd hybu rolau a chyfleoedd i atynnu, gwobrwyo, datblygu a chadw meddygon yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ysbrydoli gan Nod Pedwarplyg Cymru Iachach. Y nod hwn yw sicrhau gweithlu cynhwysol, ymrwymedig, cynaliadwy, hyblyg ac ymatebol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae strategaeth Cymru Iachach hefyd yn cymeradwyo pwysigrwydd gweithlu sy'n teimlo bod iddo werth.

Meddai Leona Walsh, o Uned Cymorth Proffesiynol AaGIC: “Mae'r Uned Cymorth Proffesiynol yn parhau i gynorthwyo llawer o feddygon dan hyfforddiant sydd wedi profi gorflinder gwaith yn ystod eu taith hyfforddi. Mae'n hanfodol addysgu hyfforddeion ynghylch atal gorflinder gwaith a hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i addysgu hyfforddeion a hyrwyddo’u gyrfaoedd yng Nghymru i’r dyfodol”.

Bydd mynychwyr yn cael eu hannog i roi adborth ar ôl y digwyddiad a gaiff ei ddefnyddio i'n hysbysu wrth drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Os ydych chi'n feddyg dan hyfforddiant, archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn.