Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad gyrfa nyrsio gwerthfawr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Roedd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y pleser o gynnal digwyddiad ar-lein yn canolbwyntio ar yrfaoedd nyrsio.

Anelwyd y digwyddiad fis diwethaf at y rhai sydd mewn dau feddwl am ddechrau gyrfa ym myd nyrsio. Roedd yn mynd i'r afael â phryderon a allai fod gan unrhyw ddarpar fyfyrwyr am faterion megis costau a chydbwyso astudio a lleoliadau gyda bywyd cartref.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys 2 banel o bobl medrus, gan gynnwys nyrsys, darlithwyr prifysgol, myfyrwyr nyrsio, a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka.

Roedd yn ymdrin â’r mathau o gyrsiau nyrsio sydd ar gael yng Nghymru, sut beth yw bod yn nyrs, sut beth yw’r cyrsiau, a’r broses ymgeisio.

Os gwnaethoch chi fethu'r digwyddiad, gallwch wylio’r Recordiad Digwyddiad Gyrfa Nyrsio.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar Ewch i Nyrsio ac Adeilad Nyrsio Tregyrfa.