Neidio i'r prif gynnwy

Dathlwch eich rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd yng Ngwobrau GIG Cymru 2024

Mae cystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru eleni yn gyfle gwych i ddathlu eich gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Beth bynnag fo’r newid, boed yn fawr neu’n fach, mae’r gwobrau’n ffordd wych o gydnabod eich gwaith anhygoel dros iechyd a gofal ar draws Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd gan yr enillwyr lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r categorïau ar gyfer 2024 wedi’u hailwampio i gyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Mae 12 gwobr newydd sbon, sef:

•           Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru

•           Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru

•           Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru

•           Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru

•           Gwobr Gofal Teg GIG Cymru

•           Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru

o          Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o restr fer y beirniaid a bydd cymheiriaid yn GIG Cymru yn pleidleisio drosto. 

•           Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru

•           Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru

•           Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru

•           Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru

•           Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru

•           Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru

•           Gwobr y Gweinidog am Ragoriaeth mewn Gwelliant ac Ansawdd

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y 12 categori.

Cyn cystadlu, darllenwch y Canllaw ar wneud Cais ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2024. Mae ceisiadau ar agor tan 5:00pm, dydd Gwener 3 Mai 2024. Pob lwc!