Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu enillwyr y gwobrwyon ym maes fferylliaeth eleni – Non Lewis

Trophy with gold confetti

Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal noson wobrwyo fferylliaeth sylfaen i ddathlu'r bobl hynny sy'n helpu i ddatblygu'r maes holl pwysig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Anogwyd pobl i enwebu gweithwyr fferyllol proffesiynol sy'n gweddu un o'r categorïau yn y gwobrau.
 Y categorïau oedd:

  • Fferyllydd Sylfaenol y flwyddyn
  • Cyfraniad at addysg a hyfforddiant

Dewiswyd Non Lewis fel enillydd y wobr cyfraniad at addysg a hyfforddiant. Dywedodd ei henwebwr "Mae Non wedi bod yn Oruchwyliwr Dynodedig anhygoel ac yn athrawes ragorol. Mae hi'n fentor ac yn hyfforddwr yn ogystal â fferyllydd clinigol eithriadol. Mae ei menter a'i hymdeimlad o gyfrifoldeb yn ddi-os wedi helpu ac wedi caniatáu i mi symud ymlaen drwy'r cylchdro. Mae hi wedi mynd allan o'i ffordd ac wedi mynd y filltir ychwanegol ar bob achlysur, gan deilwra ei hyfforddiant i anghenion yr hyfforddai.'

‘Does gen i ddim amheuaeth ei bod hi wedi chwarae rhan amhrisiadwy yn y daith hon o fy siapio i fel fferyllydd’

Penderfynwyd ar enillydd y categori hwn gan gydweithwyr yn Ysgol Fferylliaeth Abertawe.

Meddai Non Lewis, "Diolch yn fawr am y wobr. Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r Rhaglen Sylfaen i Fferyllwyr dan Hyfforddiant a bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu gweithlu fferyllol y dyfodol fel gweithwyr proffesiynol atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig."

Aeth Non ymlaen i ddweud, "Diolch i AaGIC am yr holl gefnogaeth a roddwyd i mi drwy gydol y flwyddyn a diolch i'm holl gydweithwyr meddyg teulu am yr holl arweiniad a roddwyd i mi i ddatblygu a chyflawni'r rôl o fewn Practisau Meddygon Teulu. Yn olaf, diolch i'r holl Fferyllwyr Dan Hyfforddiant am eu cyfraniad at ymarfer, hiwmor a sgiliau technoleg!"

Meddai Beth Broad, Arweinydd Gweithredol, Rhaglen Fferyllwyr Sylfaen AaGIC, 'Roedd yn bleser cynnal gwobrau blynyddol fferylliaeth sylfaen AaGIC. Roeddem yn falch iawn o arddangos gwaith rhagorol fferyllwyr dan hyfforddiant o bob rhan o Gymru a hoffem longyfarch yr enillwyr teilwng!'

Mae'r gwobrau hyn yn ffordd o dynnu sylw at y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan fferyllwyr i wella gofal i bobl Cymru. Mae AaGIC yn hynod ddiolchgar i gynrychioli unigolion mor uchelgeisiol a thalentog sy'n ein helpu i weithio tuag at Gymru iachach.  

Non Lewis