Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu enillwyr y gwobrwyon ym maes fferylliaeth eleni – Holly Breeze-Jones

Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal noson wobrwyo fferylliaeth sylfaen i ddathlu'r bobl sy'n helpu i ddatblygu'r maes holl pwysig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Daeth Holly Breeze-Jones yn gyntaf yng nghystadleuaeth poster prosiect lle cyflwynodd ganfyddiadau ei harchwiliad 'i werthuso a yw meddyginiaethau clefyd Parkinson yn cael eu rhoi ar amser o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'. 

Meddai Beth Broad, Arweinydd Gweithredol, Rhaglen Fferyllwyr Sylfaen AaGIC, 'Roedd yn bleser cynnal gwobrau blynyddol fferylliaeth sylfaen AaGIC. Roeddem yn falch iawn o arddangos gwaith rhagorol fferyllwyr dan hyfforddiant o bob rhan o Gymru a hoffem longyfarch yr enillwyr teilwng!'

Mae'r gwobrau hyn yn ffordd o dynnu sylw at y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan fferyllwyr i wella gofal i bobl Cymru. Mae AaGIC yn hynod ddiolchgar i gynrychioli unigolion mor uchelgeisiol a thalentog sy'n ein helpu i weithio tuag at Gymru iachach.  

Holly Breeze-Jones