Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu enillwyr y gwobrwyon ym maes fferylliaeth eleni – Ailin George

Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal noson wobrwyo fferylliaeth sylfaen i ddathlu'r bobl hynny sy'n helpu i ddatblygu'r maes holl pwysig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Anogwyd pobl i enwebu gweithwyr fferyllol proffesiynol sy'n cyd-fynd ag un o'r categorïau’r gwobrau.
 Y categorïau oedd:

  • Fferyllydd Sylfaen y flwyddyn
  • Cyfraniad at addysg a hyfforddiant

Enillodd Ailin George Moolepparambil y wobr Fferyllydd Dan Hyfforddiant y flwyddyn am ei hagwedd a'i gweithredoedd fel fferyllydd dan hyfforddiant. Fe'i disgrifiwyd gan ei henwebwr fel fferyllydd dan hyfforddiant eithriadol nad yw'n ofni unrhyw dasg ac a ddangosodd gymhwysedd a hyder mawr yn ei gallu i drafod achosion cleifion unigol gyda chlinigwyr. Parhaodd i ddweud bod Ailin yn dangos menter yn ei gallu proffesiynol ac nad yw'n osgoi atebolrwydd ei phenderfyniadau a'i gweithredoedd clinigol.

Yn dyst i'w gallu yn ymarferol, dewiswyd Ailin i fod yn Arweinydd Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd y sefydliad, yr ymgeisydd ieuengaf hyd yma.

Penderfynwyd ar enillydd y categori hwn gan gydweithwyr yn yr Ysgol Fferylliaeth Abertawe.

Meddai Ailin, "Roedd fy mlwyddyn hyfforddi yn well nag y gallwn i fod wedi'i ddychmygu, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi dod yn ôl i Gymru ar ei gyfer! Mae gen i’r dîm cyfan yn AaGIC, fy ngoruchwylwyr ymroddedig, a chefnogaeth yr holl ddarparwyr hyfforddiant allanol i ddiolch am hynny.”

Aeth ymlaen i ddweud, "Mae rhaglen hyfforddiant sylfaenol aml-sector AaGIC wedi fy ngalluogi i ddysgu a datblygu fy hun, yn broffesiynol ac yn bersonol, ac rwyf wedi cael profiadau amhrisiadwy ar hyd y ffordd! Gymaint ag yr oeddwn yn synnu, rwy'n ddiolchgar iawn i dderbyn y wobr Fferyllydd Dan Hyfforddiant y Flwyddyn yn ystod y noson wobrwyo, felly diolch am wneud hynny'n bosibl!"

Meddai Beth Broad, Arweinydd Gweithredol, Rhaglen Fferyllwyr Sylfaen AaGIC, 'Roedd yn bleser cynnal digwyddiad gobrwyo blynyddol i fferyllwyr Sylfaen. Roeddem yn falch iawn o arddangos gwaith rhagorol fferyllwyr dan hyfforddiant o bob rhan o Gymru a hoffem longyfarch yr enillwyr teilwng!'

Mae'r gwobrau hyn yn ffordd o dynnu sylw at y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan fferyllwyr i wella gofal i bobl Cymru. Mae AaGIC yn hynod ddiolchgar i gynrychioli unigolion mor uchelgeisiol a thalentog sy'n ein helpu i weithio tuag at Gymru iachach.

Ailin George Moolepparambil