Neidio i'r prif gynnwy

Dathliad pedwarplyg i AaGIC yn yr HPMAau eleni

Healthcare People Management Association awards logo

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrwyon Rhagoriaeth mewn Pobl HPMA eleni.

Mae'r gwobrau, a gynhelir gan y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA), yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith rhagorol adrannau adnoddau dynol ym maes gofal iechyd ledled Cymru.

Y pedwar categori y mae AaGIC wedi cyrraedd ar y rhestr fer yw:

Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Flwyddyn – Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu ac OD

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Flwyddyn – Julie Rogers, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Gweithlu ac OD

Gwobr Prifysgol Bradford am weithio ar draws sectorau - Cymru Iachach - Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwobr Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol am weithio mewn partneriaeth rhwng cyflogwyr ac undebau llafur – Cynllun Cadetiaid Nyrsio Cymru yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Nyrsys

Mae cael Cyfarwyddwr AaGIC a Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu ag OD ar y rhestr fer yn yr un flwyddyn yn dangos  ymrwymiad AaGIC i'w weithlu. Roedd y ceisiadau ar gyfer y ddau gategori yn cynnwys amlygu heriau penodol a wynebodd y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyflawniadau sydd wedi cyfrannu at berfformiad sefydliadau/tîm, rhinweddau personol a thystiolaeth o arweinyddiaeth broffesiynol.

Lansiwyd 'Cymru Iachach - Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' ym mis Hydref 2020 ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru( SCW). Mae'n nodi'r weledigaeth, yr uchelgais a'r dulliau gweithredu sy'n rhoi lles wrth wraidd cynlluniau ar gyfer y GIG a'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Hefyd ar y rhestr fer roedd cynllun Cadetiaid Brenhinol y Coleg Nyrsio yng Nghymru a ariannwyd gan AaGIC. Wedi'i lansio gan Ei Fawrhydu, Tywysog Cymru, nod y cynllun yw ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd amrywiol ac ardaloedd anodd eu cyrraedd, i archwilio gyrfa bosibl ym maes nyrsio.

Mae AaGIC yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer gyda'i phartneriaid yn y CNB (RCN) a GCC (SCW), gan ddangos enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth.

Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad am y rhestr fer, dywedodd Chris Jones, Cadeirydd AaGIC, "Mae gweld AaGIC ar y rhestr fer mewn pedwar categori yn dyst gwirioneddol i waith caled ac ymrwymiad ein tîm dros yr hyn a fu'n flwyddyn heriol dros ben i'r GIG.

"Rwy'n falch iawn o'u gweld yn cael eu cydnabod fel hyn ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y seremoni ym mis Hydref."

Cyhoeddir enillwyr yn y seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 7 Hydref 2021.

Mae rhestr fer lawn y gwobrau ar gael drwy ymweld â gwefan HPMA.