Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu gweithlu digidol alluog

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi lansiad ein Fframwaith Gallu Digidol ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae'r fframwaith hwn yn offeryn ymarferol, rhyngweithiol, i staff gofal iechyd ddeall yn well y sgiliau, yr ymddygiadau a'r agweddau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd digidol. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar eich galluoedd digidol, a hunanasesu, gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein. Rydym hefyd wedi darparu amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i chi i ddatblygu eich sgiliau digidol.

 

Pam rydyn ni'n gwneud y gwaith hwn?

Mae datblygu gallu digidol yn golygu mwy nag adeiladu gweithlu sy'n digidol barod. Mae'n wir bod angen i bob un ohonom ddefnyddio systemau TG yn y gweithle, a bod technolegau iechyd digidol yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau iechyd i wella ansawdd gofal cleifion. Ond rydym hefyd yn gwybod bod cyfranogiad digidol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell, i bawb, gan gynnwys gwell iechyd a lles, disgwyliad oes hirach, a gwell mynediad at swyddi ac addysg. Gall hyn chwarae rôl mewn dysgu a datblygu parhaus i gefnogi sgiliau digidol personol a phroffesiynol.

O fewn gofal iechyd rydym yn gweld datblygiadau anhygoel ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg, argraffu 3D, nanodechnoleg, a meddygaeth fanwl. Rydym yn defnyddio dyfeisiau gwisgadwy i fonitro dangosyddion iechyd mewn amser real, a llwyfannau teleiechyd i ganiatáu i gleifion gael mynediad at ofal o bell.

Mae'r technolegau hyn yn trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, drwy symud y ffocws o ofal adweithiol i ofal rhagweithiol, rydym yn symud tuag at fodel gofal iechyd mwy cynaliadwy. Ni fu erioed yn bwysicach grymuso pobl i deimlo'n hyderus ac yn alluog wrth ddefnyddio technoleg - oherwydd chi yw'r arbenigwyr ar yr hyn rydych chi'n ei wneud, ac yn y sefyllfa orau i siapio sut y gellir defnyddio technoleg orau yn eich rôl, yn eich proffesiwn.

 

Sut i gyrchu’r fframwaith

Mae'r Fframwaith Gallu Digidol, gan gynnwys yr offeryn hunanwerthuso ar-lein, yn cael ei gynnal ar ein platfform dysgu digidol cenedlaethol newydd: Y Tŷ Dysgu. Dyma lle byddwn yn cynnal yr holl agweddau ar-lein ar hyfforddiant ac addysg a ddarparwn yn genedlaethol.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a gadarnhau eich cyfeiriad e-bost. Dylai eich cofrestriad fod yn gyflawn o fewn un diwrnod gwaith. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hyn, ac yn eich gwahodd i fewngofnodi.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, cewch eich cofrestru'n awtomatig ar y cwrs Fframwaith Gallu Digidol sydd â gwybodaeth am y fframwaith yn ogystal a'r ddolen i'r hunanwerthusiad.

Mae canlyniadau'r gwerthusiad ar eich cyfer chi yn unig, mae ymatebion unigol yn breifat. Fodd bynnag, bydd yn rhoi trosolwg (dienw) y mae mawr ei angen, o alluoedd digidol y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan ein galluogi i gynllunio ein cymorth a’n hyfforddiant yn well.

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan.