Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu cynllun i wella dyfodol nyrsio yng Nghymru

Nyrsio yw'r gweithlu mwyaf o fewn y GIG yng Nghymru. Mae ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) wedi cydnabod prinder yn y dyfodol yn y proffesiwn hwn.

Mae'r heriau sy'n wynebu'r proffesiwn nyrsio yn sylweddol. Mae morâl mewn nyrsio wedi dirywio, gydag aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn pleidleisio dros weithredu diwydiannol am y tro cyntaf. Mae nifer yr oriau ychwanegol mae nyrsys yn gweithio yn uchel. Mae swyddi gwag nyrsys tua 2900, ac nid yw recriwtio a chadw nyrsys yn cadw i fyny gyda'r cynnydd mawr yn y galw a welsom am ein gwasanaethau GIG.

Mae nyrsys yn cael eu cyflogi ym mhob rhan o system y GIG, a heb weithlu nyrsio cynaliadwy, ni fydd y GIG yn gallu darparu gwasanaethau i bobl Cymru.

Felly, 'dan ni'n datblygu cynllun y gweithlu nyrsio i helpu cyflogwyr nyrsio i recriwtio, hyfforddi ac ailhyfforddi nyrsys i ddarparu digon yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu gyda mewnbwn nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Os oes gennych unrhyw adborth neu ymholiadau, cysylltwch â'r tîm drwy HEIW.nursingworkforceplan@wales.nhs.uk.

 

Mae'r cynllun wedi ei rannu'n dri cham.

Mae cam un wedi edrych ar feysydd blaenoriaeth sydd wedi bod:

  • Datblygu ffordd o wybod y cyflenwad a'r galw am nyrsio dros y pum mlynedd nesaf
  • Cynyddu nifer y myfyrwyr nyrsio a graddedigion
  • Creu canllaw cadw ac adnodd hunanasesu i gyflogwyr nyrsio helpu i gadw staff
  • Cynyddu nifer y nyrsys sydd wedi cael eu recriwtio'n rhyngwladol yng Nghymru
  • Darparu adnoddau i symud ymlaen a datblygu nyrsys cefnogol ym mandiau 2 i 4.

Cam dau

  • Mae gwaith yn dal i gael ei gwmpasu ar gyfer Cam 2. Fodd bynnag, byddwn yn cyflawni gwaith yn seiliedig ar themâu strategaeth saith y gweithlu:
    • Gweithlu Ymgysylltiol, Cymhellol ac Iach
    • Atyniad a recriwtio
    • Model y Gweithlu Di-dor
    • Adeiladu gweithlu parod yn ddigidol
    • Addysg a Dysgu rhagorol
    • Arweinyddiaeth ac Olyniaeth
    • Cyflenwad a Siâp y Gweithlu.

Cam tri

  • Gweithredu cynllun y gweithlu nyrsio.

 

Cadwch lygad allan am ddiweddariadau ar ein tudalen we cynllun gweithlu nyrsio.