Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch wahanol arbenigeddau nyrsio

Efallai y cewch eich synnu o ddysgu pa mor amrywiol y gall gyrfa nyrsio fod.

Hyd yn oed cyn i chi gofrestru fel nyrs newydd gymhwyso mae gennych yr opsiwn o ddewis un allan o bedwar llwybr nyrsio.

Rhag ofn i chi ei golli yn ein blogiau blaenorol, y pedwar llwybr nyrsio yw nyrsio oedolion, plant, nyrsio anabledd dysgu ac iechyd meddwl.

Ar ôl cwblhau gradd nyrsio tair blynedd, gallwch symud ymlaen i bob math o rolau nyrsio amrywiol.

Nid oes rhaid i yrfa nyrsio fod yn  aros ar un ward ysbyty yn unig ar hyd eich oes. Efallai y byddwch yn dewis peidio â gweithio mewn ward ysbyty o gwbl. Mae llawer o swyddi nyrsio wedi'u lleoli yn y gymuned, fel nyrs ardal neu mewn practis cyffredinol.

Gall lleoliadau eraill gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, ward newyddenedigol, cyfleuster iechyd meddwl, theatr lawdriniaeth, carchar, neu iechyd galwedigaethol.

Mae galw mawr am nyrsys yng Nghymru mewn llawer o arbenigeddau, ac fe welwch nad oes byth eiliad ddiflas.

Efallai y byddwch am geisio dilyniant gyrfa ar ffurf rolau  rheoli, neu rolau gorgyffwrdd, fel iechyd meddwl y glasoed.

Gyda’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus sydd ar gael i chi ar ôl cymhwyso, gallwch ennill yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad i fynd â chi i unrhyw le yr hoffech fynd.

Hefyd, wrth i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb, a gwella ar eich perfformiad fel nyrs dros y blynyddoedd, bydd eich cyflog yn cynyddu yn unol â hynny.

Nid swydd yn unig yw nyrsio, ond gyrfa.  Mae gan Gymru lawer i’w gynnig i nyrsys presennol a darpar nyrsys sy’n chwilio am yrfa gyfoethog a gwerth chweil.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, darllenwch ein herthygl flaenorol “Beth sydd ei angen i fod yn nyrs” i'ch helpu i benderfynu a fyddai nyrsio yn addas i chi. Os penderfynwch fod gennych ddiddordeb mewn nyrsio, ewch draw i Ewch i nyrsio er mwyn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod.