Neidio i'r prif gynnwy

Cystadleuaeth Ffotograffau Hyfforddi Gweithio Byw 2021

Y llun buddugol - a dynnwyd gan Dr Amy Case

Mae’r ymgyrch atyniad Hyfforddi Gweithio Byw sy’n cefnogi recriwtio i GIG Cymru, wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd bellach. Nod yr ymgyrch yw hyrwyddo Cymru fel lle rhagorol i feddygon, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill hyfforddi, gweithio a byw  gyda’u teuluoedd.

Yn hydref 2021, lansiwyd cystadleuaeth ffotograffau sy’n agored i holl staff GIG Cymru, i gael rhai delweddau cyfoes o’r hyn y mae Cymru yn ei olygu fel lle i Hyfforddi Gweithio a Byw ynddo i’r staff sydd yn eu lle ar hyn o bryd, ac er mwyn helpu i adeiladu ein portffolio o luniau, a ddefnyddir yn elfen fyw ein hymgyrch. Mae ein cystadleuaeth ffotograffau HyfforddiGweithio Byw bellach wedi cau, ac mae’r enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail wedi’u cyhoeddi. Mae'n bleser gennym ddweud inni dderbyn ychydig dros 600 o ffotograffau, ac roedd eu safon yn wych, gan wneud y broses ddethol yn bleserus ac yn heriol i ni.

Roeddem yn falch iawn o weld lluniau o bob rhan o Gymru. Cafodd golygfeydd godidog o fynyddoedd a thraethau Cymru eu harddangos ac roeddent yn ddewisiadau mynediad poblogaidd. Y categori Arfordir gafodd y nifer fwyaf o geisiadau, tra dewisodd eraill thema creadigol a chyfoes.

Roedd 6 chategori, gydag enillydd a rhywun yn ail ym mhob un; yn ogystal ag enillydd cyffredinol.

Tynnwyd y llun buddugol hwn gan Dr Amy Case, Cymrawd Ymchwil Radiotherapi, BIP Bae Abertawe. Enillodd Amy hefyd y categori Teulu gyda'i chais Mentro i’r Dieithr,Coedwig Hensol.

Yn ogystal â chefnogi hyrwyddo Cymru, fel lle gwych i fyw ynddo, bydd enillwyr y 6 chategori hefyd yn cael eu harddangos yn nerbynfa AaGIC.

Dywedodd Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Roedd yn bleser pur bod ar y panel beirniadu’r prosiect hwn, roedd yn fraint lwyr gweld y lefel eithriadol o uchel o geisiadau o bob rhan o Gymru ac nid oedd ein swydd yn un hawdd. Roeddem ni mor falch ein bod wedi cael ymateb mor gadarnhaol gan ein cydweithwyr yn GIG Cymru, gan wneud ein gorchwyl yn werth chweil".

Hoffai’r tîm Hyfforddi, Gweithio, Byw ddiolch i bawb a roddodd o'i amser i gyflwyno cais. Mae ansawdd y lluniau a dderbyniwyd wedi ein galluogi i adeiladu ar ein portffolio presennol o ddelweddau ar gyfer ein hymgyrch atyniadau.

I weld yr holl gofnodion, gellir dod o hyd i fanylion pellach;

https://aagic.gig.cymru/ein-gwaith/hyfforddigweithiobyw/hyfforddigweithiobyw-cystadleuaeth-ffotograffiaeth-2021/