Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau hyfforddiant iechyd meddwl ychwanegol ar gyfer y gweithlu fferylliaeth gymunedol

Cyhoeddwyd 15/03/2024

 

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnig dyddiadau newydd ar gyfer y cwrs hyfforddi Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr fferylliaeth gymunedol. A’r dyddiad cau ar gyfer hawlio taliad am yr hyfforddiant hwn yw 31 o Fawrth 2024.

Gellir gweld manylion y cwrs a sut i gofrestru ar wefan y tîm Fferylliaeth.

Bydd mynychwyr yn cael mewnwelediad ac yn datblygu sgiliau newydd i:

  • helpu i adnabod cyflyrau iechyd meddwl
  • helpu i adnabod a rheoli straen
  • deall effaith camddefnyddio sylweddau
  • dechrau sgwrs gefnogol
  • cyfeirio pobl at gymorth proffesiynol priodol


Bydd mynychwyr yn dysgu:

  • am y cynllun gweithredu cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl
  • sut i roi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol ar waith yn y gweithle


Mae’r cyrsiau ar gael ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru.

Mynychodd Katherine Beach, Technegydd Fferylliaeth yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Dywedodd hi:

“Fe fynychais y cwrs, roedd yn hynod ddefnyddiol ac addysgiadol, mwynheais y diwrnod yn fawr.
Roedd yn rhyngweithiol drwyddo draw a oedd yn ei wneud yn fwy diddorol. Roedd y sesiwn cyfeirio yn addysgiadol iawn a gallwn ddychmygu bod hwn yn rhan ddefnyddiol o becyn cymorth y byddai ei angen arnoch i weithio mewn fferylliaeth gymunedol.”