Cyhoeddwyd 13/03/2024
Mae'n bleser gennym gyhoeddi, cyhoeddi adroddiad cynnydd cyntaf y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Y cynllun hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cydnabod y grŵp amrywiol o unigolion sy’n cefnogi’r rhai sy’n wynebu heriau iechyd meddwl.
Datblygwyd y cynllun gyda’r uchelgais o greu gweithlu iechyd meddwl llawn cymhelliant, ymroddgar a gwerthfawr, gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.
Wrth weithio gyda'i gilydd, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn rhoi gweithrediadau allweddol ar waith yn y saith adran o’r cynllun, yn adeiladu seilwaith pwysig ar gyfer ein gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad cynnydd, dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
“Mae ein gweithlu iechyd meddwl yn wynebu heriau niferus, ac er gwaethaf hyn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel hyd eithaf eu gallu ddydd ar ôl dydd. Hoffwn ddiolch i weithwyr ym mhob grŵp proffesiynol am bopeth y maent yn ei wneud ac rwy’n falch o weld yr effaith y mae ein cynllun yn dechrau ei chael ar gefnogi gwasanaethau ledled Cymru.”
Dywedodd Sue Evans Prif Swyddog Gweithredol Gofal Cymdeithasol Cymru, "Mae hi’n wych i weld adborth a thystiolaeth bod ein gweithredoedd yn dechrau gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Cryfder amlwg yn y cynllun yw ei ffocws ar gyd-lunio a chyflawni ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, mae AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda'i gilydd i roi’r gweithrediadau ar waith."
Dywedodd Alex Howells Prif Swyddog Gweithredol AaGIC “Mae’r cynllun yma wedi bod yn gyfle mawr i AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru i sefydlu dull cynhwysfawr a dealladwy at ddatblygiad y gweithlu iechyd meddwl, ac er bod yno lawer i’w wneud o hyd, rydym yn falch iawn i rannu’r cynnydd hyd yn hyn ac i ddiolch i’n partneriaid am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth.”
Gellir gweld copi o'r adroddiad cynnydd ar wefan AaGIC.