Neidio i'r prif gynnwy

Cymuned Hinsawdd Call newydd i staff GIG Cymru

Mae'r Gymuned Hinsawdd Call, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn blatfform rhwydweithio newydd ar Gwella, porth arweinyddiaeth ar gyfer staff gofal iechyd yn GIG Cymru.

Mae'r platfform yn galluogi staff i rannu a chymryd rhan mewn trafodaethau ac adnoddau call am yr hinsawdd, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi gyda'i gilydd.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae podlediad
 Climate Smart Conversations wedi’i lansio’n ddiweddar ac mae’r bennod gyntaf bellach yn fyw. Mae’r podlediad yn amlygu mewnwelediadau ac ysbrydoliaeth ar feithrin GIG gwyrddach, mwy cynaliadwy yng Nghymru.

Wrth i aelodaeth dyfu dros y misoedd nesaf, mae cynlluniau i ddatblygu’r platfform ymhellach, gyda phwyslais arbennig ar fynd i’r afael â meysydd allweddol o ddiddordeb.

Dywedodd Sarah Thorne, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyfunol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 

Mae’r Gymuned Hinsawdd Call newydd ar Gwella, yn adnodd gwych i bawb sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd cynaliadwy, hinsawdd-call a’r rhai sydd eisiau dysgu mwy amdano. Mae’n hawdd ei llywio ac mae’n cynnwys gwybodaeth mewn fformat cryno, hygyrch, gan gynnwys y ddeddfwriaeth gefnogol bwysig sy’n sail i’r gwaith y mae’r GIG yn ei wneud yn y maes hwn.”

Yn unol â’r camau gweithredu ar gynaliadwyedd ac addysg am yr hinsawdd yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig Cenedlaethol (IMTP), mae creu Cymuned Hinsawdd Call yn gam gwych.

Anogir holl staff GIG Cymru i gymryd rhan yn y fenter Cymunedau Hinsawdd Call drwy gyfrannu yn y ffyrdd canlynol:

1. Cynaliadwyedd ar waith: Mabwysiadu arferion ecogyfeillgar yn y gwaith a gartref. Lleihau'r defnydd o ynni, lleihau gwastraff, a sicrhau dewisiadau cynaliadwy lle bynnag y bo modd.

2. Rhannu syniadau: Oes gennych chi syniad arloesol ar gyfer lleihau effaith amgylcheddol? Rhannwch ef gydag aelodau'r Gymuned Hinsawdd Call!

3. Arhoswch yn flaengar: Darllenwch am y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn gofal iechyd cynaliadwy ac arferion call o ran hinsawdd.

Cymerwch ran a chydweithiwch i greu dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy i bob sefydliad a'r blaned.