Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth sy'n gallu ymuno â'r frwydr yn erbyn COVID-19

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth ar sut y gallant gefnogi'r system iechyd a gofal yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng. 

Datblygwyd y canllawiau gan Brif Swyddfa Nyrsio Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar y cyd â Sefydliadau Addysg Cymeradwy a chyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), y Colegau Brenhinol a Chyngor Deoniaid Iechyd Cymru. 

Mae hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym ac mae'n bosibl y bydd cyngor yn destun diwygiad pellach. Dylid defnyddio'r canllaw cymorth i fyfyrwyr a gyhoeddir heddiw ar y cyd â chyngor ac arweiniad gan sefydliadau addysg cymeradwy y myfyrwyr, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), colegau brenhinol ac undebau llafur.

Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio, Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

"Rydym yn wynebu digwyddiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn hanes y GIG gyda phwysau aruthrol ar wasanaethau iechyd a gofal. Gwyddom hefyd fod llawer o fyfyrwyr gofal iechyd wedi gofyn am gael cyfrannu at ddarparu gofal yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym am alluogi myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth i gefnogi cydweithwyr rheng flaen ac rydym wedi cynhyrchu canllaw cymorth i fyfyrwyr i amlinellu beth fydd hyn yn ei olygu i fyfyrwyr yng Nghymru. Bydd y canllaw yn helpu myfyrwyr i benderfynu sut y gallant gefnogi'r GIG ar yr adeg hon."

Gallwch weld y canllawiau yma.