Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â Gwyddonydd Gofal Iechyd

DNA helix. Woman holding up a test tube.

Mae Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn ffurfio 5% o’r gweithlu, ac yn ymwneud ag 80% o’r holl benderfyniadau clinigol yn y GIG, gan ddatblygu datblygiadau arloesol, clinigol a thechnolegol.

Mae gan y GIG draddodiad cryf o feithrin y gwyddonwyr gofal iechyd gorau a mwyaf disglair. Rydym mor falch o glodfori’r gwyddonwyr gwych sydd gennym yn gweithio o
ddydd i ddydd i ddarparu gofal o’r radd orau i bawb. Heddiw, rydyn ni'n dathlu Jon Wilson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cymerodd Jon yr amser i ateb rhai cwestiynau am ei yrfa.

Fy rôl fel Gwyddonydd Gofal Iechyd

Rwy’n arwain tîm o beirianwyr sy’n gwasanaethu Ceredigion. Rydym yn cynnal a chadw a rheoli dyfeisiau meddygol yn unol â safonau’r MHRA (Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae hyn yn ymwneud â phob agwedd ar gylch bywyd dyfeisiau meddygol electronig a ddefnyddir i ofalu am gleifion a’u hadsefydlu. Mae’r dyfeisiau hyn yn amrywio o Welyau a Theclynnau Codi i ddyfeisiau llawer mwy cymhleth fel Peiriannau Anadlu neu ddyfeisiau Anesthesia. Mae’n gwaith yn cynnwys dewis cynhyrchion a’u caffael, trin a thrwsio yn ogystal â datgomisiynu. Rwy'n gyfrifol am Gronfa Ddata Asedau'r Bwrdd Iechyd ac yn rheoli'r holl brosiectau sy'n cysylltu dyfeisiau meddygol ag unrhyw system rwydweithio TG. Mae hyn yn cynnwys ein systemau tracio ac olrhain ar gyfer dyfeisiau meddygol. Rwy'n gyfrifol am gynorthwyo i gynhyrchu Dangoswyr Perfformiad Allweddol ar gyfer adrannau a systemau adrodd ar berfformiad yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth y dyfeisiau hyn. Nod hyn oll yw sicrhau bod y dyfeisiau meddygol yn darparu gofal o’r radd orau i gleifion.


Yr hyn rwy'n ei fwynhau am fy swydd:

Rwy'n mwynhau gweithio gyda fy nhîm a fy nghyfoedion yn ein safleoedd eraill i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf. Rwy'n mwynhau gweld
technolegau newydd yn dod yn rhan o Ofal Iechyd a chael bod ar flaen y gad o ran cyflwyno'r systemau hyn i'n safleoedd.

 
Beth yw eich uchelgeisiau gyrfaol?

Rwy'n teimlo bod fy swydd yn brysur ac yn amrywiol iawn fel y mae hi. Rwy'n hapus lle rydw i ond mi fuaswn yn ystyried Rheoli Adran Beirianneg Glinigol y Bwrdd Iechyd.

 
Sut wnaethoch chi ymgymryd â’ch rôl?

Mae gen i Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig. Rwy’n hanu o gefndir ym myd gweithgynhyrchu Electroneg ar gyfer y
farchnad Ddiwydiannol. Datblygais i fod yn Beiriannydd Profi Pwrpasol o fewn y gyfundrefn Weithgynhyrchu. Arweiniodd hyn yn ei dro at sefydlu fy musnes fy hun yn
trin ac atgyweirio Offer Cerddorol.

 
Pa fath o berson mae eich swydd yn addas ar ei gyfer?

Rhywun sydd ag etheg waith dda, sy’n ymroddgar, yn agored ac yn onest. Rhywun sy'n ddigynnwrf, yn hunanfeddiannol ac yn ymdrin â phopeth mewn modd diduedd a
phragmatig. Rhywun sy'n drefnus ac sy’n fodlon addef eu camgymeriadau, waeth pa mor gadarn a phenderfynol y bo.


Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Gwyddor Gofal Iechyd, ewch i'n tudalennau gwe gwyddor gofal iechyd lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y 50+ o ddisgyblaethau sydd ar gael a'r llwybrau i’w cyrchu.