Neidio i'r prif gynnwy

Croeso cynnes i'r holl fyfyrwyr gofal iechyd

Croeso cynnes i'r holl fyfyrwyr gofal iechyd sydd wedi dechrau eu cyrsiau gyda ni yng Nghymru. Er y gall llawer o bethau fod yn wahanol eleni, mae un peth yn aros yr un peth - eich penderfyniad, a'ch ymrwymiad, i ddod yn rhan o'r gofal iechyd.

Mae gofalu am bobl ar adegau gorau neu waethaf eu bywydau yn fraint enfawr. Daw'r fraint hon â chyfrifoldeb - y cyfrifoldeb i wneud y peth iawn i'r person iawn ar yr amser iawn. Bydd eich addysg yn mynd â chi ar daith a fydd yn eich galluogi i ymgymryd, ac i ddeall y cyfrifoldeb hwn i'r safon uchaf er budd pobl Cymru.

Gwrandewch yn astud, gofynnwch pan yn ansicr a chofiwch nad ydych chi byth yn gwybod beth y gellir ei gyflawni nes i chi geisio. Mwynhewch bob eiliad - bydd eich diwrnod graddio yma cyn i chi wybod!

Angela Parry, Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro