Neidio i'r prif gynnwy

Creu adnoddau lles ar gyfer staff gig cymru

Mae partneriaid o bob rhan o GIG Cymru wedi dod at ei gilydd i greu pecyn lles ar-lein cadarn i staff y GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r gyfres o adnoddau, sydd ar gael nawr drwy wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW), yn cynnig arweiniad i reolwyr sy'n awyddus i gefnogi gweithwyr, yn ogystal â mynediad agored, cefnogol, adnoddau ac offer i alluogi staff i reoli eu lles eu hunain yn well.

Eglurodd Claire Smith, Rheolwr Rhaglen y Gweithlu yn AaGIC, fod lles staff GIG Cymru yn hollbwysig yn awr, yn fwy nag erioed. Meddai, "Nod y dogfennau hyn yw sicrhau bod y rheini sy'n gweithio i'n diogelu a'n helpu yn gwybod sut i gael cymorth.

"Mae ymddangosiad COVID-19 wedi caniatáu i ni ddatblygu adnoddau newydd tra'n ailwerthuso sawl adnodd sydd ar gael ar hyn o bryd, gan sicrhau eu bod yn gallu cefnogi staff yn effeithiol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn a thu hwnt".

Mae’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud gan AaGIC i gefnogi gweithlu GIG Cymru yn ystod pandemig COVID-19, ewch i https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/covid-19/.