Mewn ymateb i alwad Dr Andrew Goodall inni wella sgiliau staff gofal nad ydynt yn feirniadol i gefnogi arbenigwyr gofal critigol, rydym wedi ymgysylltu'n rhagweithiol â'r gwasanaeth a Phrifysgolion yng Nghymru i lunio cynllun gweithredu. Yn dilyn wythnos o drafodaethau a chyfarfodydd defnyddiol gydag arweinwyr gofal clinigol Cymru gyfan, Prifysgolion a chydweithwyr AaGIC, rydym yn falch o gadarnhau ein bod bellach mewn sefyllfa i gynnig cwrs 3 diwrnod a chwrs 1 diwrnod;
Mae Prifysgolion ledled Cymru wedi gweithio'n eithriadol o galed ac yn gyflym dros ben i ddatblygu a sicrhau bod hyn ar gael. Mae hon yn enghraifft ragorol o bartneriaid addysg uwch yn ymateb ar frys ac yn broffesiynol mewn ymateb i sefyllfa argyfyngus.
Y gynulleidfa darged pennaf yw'r ODPau, Cynorthwywyr Anesthetig a Nyrsys Adfer sydd â phrofiad o wasanaethau anadlu i gleifion ac y mae eu prif waith wedi lleihau'n ddiweddar yn dilyn canslo llawdriniaeth ddewisol ar draws GIG Cymru. Nid yw mynd â staff allan o'r ysbytai yn ddelfrydol ar hyn o bryd, ond mae hyn yn anghenraid er mwyn cryfhau'r system os bydd y pandemig yn gwaethygu.
Gall yr hyfforddiant hwn fod ar gyfer staff eraill a fyddai ar eu hennill neu a allai, dros y misoedd i ddod, gael eu gofyn i gefnogi arbenigwyr gofal critigol.