Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol 2023


Pryd fydd yr arolwg yn cael ei lansio? 
Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yn lansio’r arolwg ddydd Mawrth 21 2023. Bydd yr arolwg ar gael am chwe wythnos, a bydd yn cau ddydd Iau 4 Mai 2023. Y prif nod yw gweld beth yw eich canfyddiad o ansawdd yr hyfforddiant rydych yn ei dderbyn.  


Sut y byddwn yn cysylltu ag hyfforddeion? 
Bydd angen i hyfforddeion fewngofnodi i’w cyfrif CMC Ar-lein drwy: CMC Online account

na, gellir mynd at yr arolwg hyfforddeion drwy glicio ar y tab ‘My Surveys’. Bydd tudalen gyntaf yr arolwg yn cynnwys manylion swydd yr hyfforddai. Dim ond cadarnhau a ydynt yn gywir neu ddiwygio yn ôl yr angen y bydd angen i hyfforddeion ei wneud.  


Pa hyfforddeion sydd angen cwblhau’r arolwg hwn? 
Mae’r arolwg yn berthnasol i hyfforddeion arbenigedd sylfaenol, craidd ac uwch, gan gynnwys cofrestryddion arbenigol a meddygon teulu dan hyfforddiant. Yr unig eithriadau i hyn yw cofrestryddion arbenigol sydd wedi derbyn eu tystysgrif cwblhau hyfforddiant (CCT) ond sy’n aros am swydd ymgynghorol, deintyddion, hyfforddeion Iechyd Cyhoeddus anfeddygol, meddygon nad ydynt mewn swyddi hyfforddiant e.e. penodiadau locwm ar gyfer gwasanaeth, meddygon gradd Ymddiriedolaeth a hyfforddeion y Cynlluniau Hyfforddiant Meddygol (MTI). Bydd yr hyfforddeion nad ydynt yn destun arolwg ond y caiff gwybodaeth ei chasglu amdanynt yn hyfforddeion sydd ar gyfnod mamolaeth o 21 Mawrth 2023 neu’n hyfforddeion y tu allan i raglen, heb fod yn y DU, y tu allan i raglen ar gyfer ymchwil, y tu allan i raglen ar gyfer profiad clinigol, neu’n hyfforddeion y tu allan i raglen ar gyfer seibiant gyrfa. 


Sut y bydd canlyniadau ystyrlon yn cael eu casglu? 
Cyn lansio'r arolwg byddwn yn gweithio gydag arbenigeddau a lleoliadau i godi ymwybyddiaeth. Yn ystod yr arolwg, bydd yr Uned Ansawdd yn monitro'r gyfradd ymateb ac yn gweithio gyda'r arweinwyr arbenigol a Chanolfannau Addysg ôl-raddedig i atgoffa'r rhai nad atebodd yr arolwg Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg at HEIW trainee survey


Pryd fydd y canlyniadau ar gael? 
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi awgrymu y bydd y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd ym mis Gorffennaf 2023 (dyddiad terfynol i’w gadarnhau). Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau wrth iddynt ddod ar gael. 


Eich barn 
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn gydweithio i wella ein cyfraddau ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae’n gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant drwy roi eich barn i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol am safon addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd eich ymatebion yn gyfrinachol a byddant yn cael eu hadrodd yn ddienw. 


Mwy o wybodaeth 
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg arfaethedig, cysylltwch â: