Neidio i'r prif gynnwy

Chwalu'r mythau o amgylch y proffesiwn nyrsio

Os ydych chi mewn dau feddwl am ddod yn nyrs, efallai mai'r rheswm am hynny yw eich bod wedi gwrando ar un neu fwy o'r mythau am sut fath o brofiad yw nyrsio.

Felly, rydyn ni'n mynd i ddweud y gwir wrthoch chi  trwy roi datganiadau i chi, ac yna esbonio a ydyn nhw'n wir neu'n anghywir.

 

Cywir neu anghywir: Mae angen llawer o brofiad bywyd a gwaith cyn gwneud cais i fod yn fyfyriwr ar raglen nyrsio.

Ateb:

Mae gan bob prifysgol ei meini prawf mynediad penodol ei hun. Bydd arnoch angen cymwysterau, fel lefelau A neu gyfwerth. Bydd yn rhaid i chi hefyd basio cyfweliad lle bydd angen i chi allu dangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau cywir. Gall hyn ddod o unrhyw faes o'ch bywyd lle rydych wedi dangos agwedd ofalgar, awydd i helpu eraill, ac ati.

 

Cywir neu anghywir: Ni fyddwch yn gallu fforddio bod yn fyfyriwr.

Ateb:

Mae cynllun dyfarnu bwrsariaeth GIG Cymru ar gael i bob myfyriwr sy’n cael cynnig lle ar raddau cysylltiedig ag iechyd mewn prifysgol yng Nghymru.​

Beth yw dyfarniad y fwrsariaeth?

  • Cymorth ariannol ​
  • Yn talu costau ffioedd dysgu yn llawn​.
  • Yn helpu gyda chostau byw - £1,000 o grant cynhaliaeth heb brawf modd (fesul blwyddyn academaidd).
  • Gallu gwneud cais am fwrsariaeth prawf modd​.
  • Gellir cael cymorth ychwanegol ar gyfer gofal plant, lwfans dibynyddion ac eraill
  • Nid yw'n ad-daladwy ar yr amod y bodlonir yr holl delerau ac amodau​.
  • Yn gofyn i chi ymrwymo i weithio yn GIG Cymru fel nyrs am 2 flynedd ar ôl cymhwyso ar gyfer eich gradd. ​
  • Rhaid i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am y fwrsariaeth fod yn breswylydd parhaol yng Nghymru. ​

Yn ogystal, gall pob myfyriwr yng Nghymru wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.​

Mae opsiynau eraill yn cynnwys gwneud cais am ysgoloriaeth i Goleg y Gymraeg os ydych yn dymuno astudio rhai o’ch modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cywir neu anghywir: Y cyflog cychwynnol ar gyfer nyrs yw £28,834.

Ateb:

Y cyflog cychwynnol sylfaenol ar gyfer nyrs yw £28,834 (gwaelod band 5).
Cyflog sylfaenol top band 5 yw £35,099
Band 6 = £35,922 i £43,257
Band 7 = £44,398 i £50,807

Mae buddion di-dâl yn cynnwys:

  • Dysgu a datblygu parhaus
  • 37.5 awr o waith yr wythnos neu weithio hyblyg.​
  • Pensiynau a gwyliau cystadleuol
  • Gostyngiadau staff y GIG a thalebau gofal plant pan fo'n berthnasol 

 

Cywir neu anghywir: Dim ond un maes nyrsio sydd.

Ateb:

Mae pedair rhaglen hyfforddi nyrsys:​

1. iechyd meddwl ​

2. anableddau dysgu ​

3. oedolion ​

4. plant

 

Gallai lleoliadau myfyrwyr gynnwys:​
  • yn y gymuned
  • ysbyty ar wardiau
  • cartrefi gofal
  • addysg/ymchwil

 

Gair i gloi

Fel y gwelwch, mae nyrsio yn broffesiwn gyda chyflog teg a buddion gwych, yn enwedig os ydych chi'n awyddus i wneud cynnydd yn eich gyrfa. Gallwch ddewis pa faes nyrsio rydych am ei wneud, a gellir talu eich ffioedd dysgu drwy fwrsariaeth y GIG.

Gobeithiwn y byddwch yn cael eich annog i ystyried gyrfa ym myd nyrsio!