Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen newydd yn cefnogi Nyrsio Ymarfer Cyffredinol yng Nghymru

Mae cyfanswm o 21 o nyrsys yn barod i dderbyn hyfforddiant arbenigol er mwyn dod yn Nyrsys Ymarfer Cyffredinol (GPNs), diolch i raglen arloesol rydym yn gweithio ar.

Mae llawer o nyrsys ymarfer cyffredinol yn dynesu at ddiwedd eu gyrfaoedd gyda thua 50% o'r gweithlu dros 50 oed a chanran sylweddol yn gweithio ar raddfa lai na llawn amser. Oherwydd hyn, mae angen dybryd i recriwtio a hyfforddi mwy o GPNs.

Rhaglen GPN AaGIC yw’r rhaglen genedlaethol gyntaf sy’n cefnogi trawsnewidiad staff o rolau nyrsio eraill er mwyn dod yn GPN yng Nghymru.

Dywedodd cyn hyfforddai GPN, Melissa Pope “Fe helpodd fod y rhaglen yn strwythuredig. Fe alluogodd y diwrnodau hyfforddi wythnosol gyda materion pynciau arbenigol i mi ennill y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu fy ngyrfa i fod yn GPN yn llwyddiannus.”

Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o fuddion ar gyfer nyrsys, yn cynnwys pecyn addysg wedi'i ariannu'n llawn, cytundeb cyflogaeth wrth hyfforddi, amser wedi'i neilltuo ar gyfer dysgu a mentora.

Ar gyfer Practis Meddygon Teulu, bydd y rhaglen yn gweld proses cyflymedig i wreiddio nyrsys newydd mewn Ymarfer Cyffredinol, nyrsys sydd wedi’u hyfforddi’n lleol, gwell cyfraddau cadw a chread rôl goruchwyliwr GPN newydd.

Dywedodd Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Addysg Nyrsys a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn AaGIC ‘Mae GPNs yn darparu gofal cleifion o ystod eang, o imiwneiddio a hybu iechyd, at reolaeth cyflwr hirdymor a mân anhwylderau. Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu gan AaGIC ar y cyd gyda phob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i gyfarparu nyrsys newydd gyda sgiliau hanfodol angenrheidiol. Ein gweledigaeth yw creu gweithlu GPN cynaliadwy er mwyn cyflwyno ‘Cymru Iachach’ drwy ofal iechyd pwyllog ar gyfer cymunedau lleol. Rydym angen ysgogi nyrsys i ymuno ag ymarfer meddygol ac mae’r rhaglen hon yn gam cyntaf mewn gyrfa bywyd boddhaus.’

I gael gwybod mwy am y rhaglen hon ewch i wefan AaGIC.