Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd eraill

Cyhoeddwyd heddiw bod £16.4 miliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo er mwyn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd eraill.

O fis Ebrill 2020 ymlaen, bydd Cymru yn hyfforddi mwy o nyrsys, bydwragedd, radiograffwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd, a deietegwyr nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Stephen Griffiths, y Cyfarwyddwr Nyrsio a’r Arweinydd Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddoniaeth Iechyd yn AAGIC:

“Rydyn ni’n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ategu ein cynigion, a fydd yn galluogi’r gweithlu i dyfu er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth a chefnogi datblygiad y gweithlu presennol.

“Rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd i lunio dull cynllunio integredig, lle mae gwella iechyd y boblogaeth yn flaenoriaeth gyffredinol.

Bydd yr cynnydd hwn yn helpu i fynd i’r afael â diffygion mewn meysydd blaenoriaeth ac i ddiwallu anghenion y gweithlu ar gyfer y dyfodol, fel y nodir yn ‘Cymru Iachach’, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu mae ei angen ar y GIG i fodloni’r galw sy’n cynyddu. Rydyn ni’n cyflawni hyn drwy gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi, gan annog pobl ifanc i fynd ar drywydd proffesiynau ym maes iechyd a recriwtio y tu allan i Gymru, gyda chymorth ein hymgyrch lwyddiannus, Hyfforddi, Gweithio, Byw.

“Rydw i’n falch iawn o gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys, bydwragedd a llawer o broffesiynau iechyd eraill sy’n rhan o asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd. Dyma’r lefel uchaf o gyllid erioed a bydd yn cefnogi'r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.”

Mae’r £16.4 miliwn o gyllid ychwanegol yn cynnwys £1.4 miliwn ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi Meddygol Ôl-raddedig.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd hefyd gyhoeddi ein bod wedi rhagori ar y targed ar gyfer nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu yng Nghymru unwaith eto. Fe wnaeth y cwota ar gyfer lleoliadau hyfforddi meddygon teulu gynyddu o 136 i 160 eleni, ac mae 186 o leoedd wedi cael eu llenwi.