Neidio i'r prif gynnwy

Blog - Rhoddwyd cefnogaeth i Reng Flaen y GIG yn ystod yr ymdrech frechu gan staff AaGIG

Mae ein cydweithwyr a wirfoddolodd yn ddiweddar ar y rheng flaen i gefnogi’r ymgais i gyflwyno’r brechlyn yn rhannu eu profiadau gyda ni yma.

 

Helen Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arweinyddiaeth ac Olyniaeth - Tîm Rheoli'r Gweithlu

Fel miliynau o bobl eraill ledled y DU, mae gen i’r parch a’r edmygedd mwyaf tuag at ein gweithwyr rheng flaen ym maes iechyd a gofal. Ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae hyn wedi cynyddu i’r pwynt fy mod yn aml wedi ymddiheuro am gael fy nghyflogi gan y GIG ond heb weithio ar y rheng flaen.

Ymunais yn frwdfrydig pan gefais y cyfle i gynorthwyo’r tîm yn y ganolfan frechu leol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond roeddwn i’n gwybod fy mod am gynnig pa gefnogaeth bynnag y gallwn i’r timau sy’n rheoli’r ganolfan frechu i’n cymuned leol.

Yr hyn a brofais mewn gwirionedd oedd arweinyddiaeth dosturiol ar waith. Dechreuodd bob bore gyda chyfarfod i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â Covid, myfyrio ar y diwrnod blaenorol, h.y. beth aeth yn hwylus a beth gellid ei ddysgu a’i wella, a chysylltu â phawb yn gyffredinol. Roedd yn amlwg bod arweinyddiaeth ar y cyd neu arweinyddiaeth gyfunol yn nodwedd byw yn y tîm hwn. Cafodd rolau eu dosbarthu yn ôl arbenigedd yr unigolyn, felly dechreuais i drwy wneud te i’r tîm! Yna, cefais ddyrchafiad i reoli’r criw Pfizer oedd yn cynnwys gwirio manylion personol, dosbarthu taflenni gwybodaeth a hebrwng yr unigolyn i’r clinigwr oedd yn gweinyddu’r brechiadau Pfizer.

Ar fy ail niwrnod, cefais fy mhenodi i'r tîm adfer oedd yn cynnwys gwirio manylion a monitro adferiad cyn caniatáu i unigolion adael y ganolfan. Gwnes hyn ochr yn ochr â nyrs brofiadol a pherson ifanc rhagorol oedd newydd gwblhau ei radd yn y gyfraith. Ceisiais yn ddiflino i’w ddenu i ddilyn ein rhaglen intern neu ein rhaglen i raddedigion Dydw i ddim wedi clywed ganddo eto ond mae gen i allu stelcian heb ei ail, felly dw i’n dal i obeithio!

O'r cychwyn cyntaf roeddwn yn gallu gweld bod yna ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas, perthyn, brwdfrydedd a bywiogrwydd, yn ogystal ag ymdeimlad o atebolrwydd a pherchnogaeth. Roedd gan bob un yn fy nhîm i weledigaeth glir sef diwallu anghenion iechyd y gymuned drwy gydweithio i fwrw’r targedau imiwneiddio gofynnol. Yr hyn oedd yn amlwg iawn o fewn y Tîm hwn oedd safon y rhyngweithio a'r ymddygiad. Roedd ymrwymiad clir i fod yn bresennol gyda'n gilydd, i wrando er mwyn deall y materion neu'r rhesymau pam na fyddai dull o weithredu o bosibl yn gweithio, gan bwysleisio a chytuno ar ddull o weithredu. Roedd yr ymrwymiad i'r ymddygiadau hyn yn amlwg nid yn unig yn y rhyngweithio ag aelodau'r tîm ond hefyd yn y rhyngweithio â chleifion.

Mwynheais yn fawr y dyddiau a dreuliais yn y ganolfan frechu. A fyddwn yn ei wneud eto? Yn bendant. Roedd yn brofiad gwerthfawr a oedd yn gwneud I mi deimlo’n wylaidd iawn.

 

Mae  gwirfoddolwyr dirifedi ledled y GIG i gyd yn ymroi i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonynt am eu hymdrechion ysbrydoledig.

Mae modd i chi wirfoddoli gyda GIG Cymru, drwy gysylltu yma.

Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda dros 90,000 o staff. Mae dros 350 o gyfleoedd gyrfa sy’n cynnwys popeth o fferyllwyr i barafeddygon, gynaecolegwyr i beirianwyr clinigol, radiograffwyr i fydwragedd. Mae  cyfleoedd hefyd mewn gwasanaethau cymorth hanfodol fel gyrfaoedd gweinyddol a chlerigol, eiddo, rheolaeth gyffredinol/ariannol, arlwyo, gwasanaethau domestig neu hybu iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/gweithio-yn-gig-cymru/.