Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Beth yw nyrs?

'Beth yw nyrs?' Nid yw ateb y cwestiwn hwn mor hawdd ag y mae'n swnio, fel y bydd unrhyw nyrs brofiadol yn dweud wrthych chi! Dydw i ddim yn golygu hyn oherwydd y pandemig diweddar, y streiciau, neu'r heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu sy’n cael cyhoeddusrwydd mawr.  Mae hyn gan fod diffiniad o 'beth yw nyrs?' yn anodd iawn i ddod o hyd iddo mewn gwirionedd.

 

Mae llawer o wybodaeth am 'beth yw nyrsio?' ond mae’n fater gwahanol iawn i ddod o hyd i ddiffiniad am 'nyrs'.  Er hynny, i mi’n bersonol mae’n amlwg, ac mae bod yn ‘nyrs’ wedi bod yn fraint fawr i mi ers dros 30 mlynedd.

 

Wnes i ddechrau fy ngyrfa yn yr 80au ar adeg o wallt mawr a cherddoriaeth anhygoel: cyn ffonau symudol a'r rhyngrwyd. Yr unig ffordd roeddech chi'n gwybod nad oedd rhywun yn dod i gwrdd â chi oedd pan nad oedd e’n ymddangos. Hefyd, roedd yn rhaid i ni edrych mewn llyfrau am atebion i'n cwestiynau, neu dim ond derbyn nad oedd gennym yr un clem.

 

Roeddwn i’n 18, wedi cwblhau fy Lefelau A, ac wedi dewis gyrfa mewn nyrsio gan i bobl ddweud y byddwn i’n dda ynddo. Roeddwn i hefyd yn gwybod fy mod am wneud rhywbeth a oedd yn 'bwysig' ac a fyddai'n gwneud gwahaniaeth; mae’n swnio fel ystrydeb, ond hyd yn oed yn 18 oed roeddwn i’n sicr am hynny. Fodd bynnag, ar yr adeg yna doeddwn i wir ddim yn siŵr, ond penderfynais fynd amdani gyda’r meddylfryd 'beth yw'r gwaethaf all ddigwydd'?

 

Dechreuais fy ngyrfa ym mis Hydref 1989. Doeddwn i ddim eisiau symud i ffwrdd o fy nghartref, felly cefais le ar gwrs hyfforddi nyrsys yn fy ysbyty lleol.  Doedd gen i ddim disgwyliadau ond roedd gen i deimlad da byddai popeth yn iawn pan wnes i gwrdd â’r merched ar y daith gyda fi sy'n ffrindiau i mi hyd heddiw (bloeddiwch ar S89D!!).

 

Yn ystod y tair blynedd nesaf wnes i fwynhau’r profiad, gan ddysgu sgiliau, cwrdd â phobl, dod i adnabod fy hun, ac yn y pen draw ennill fy statws Nyrs Gyffredinol Gofrestredig. O, ac fe wnes i hefyd ddod o hyd i’r amser i briodi! Es i ymlaen wedyn i hyfforddi i fod yn fydwraig pan ddaeth y cyfle i'r amlwg. Roeddwn yn ffodus i allu manteisio ar gyfleoedd pan ddaethon nhw i’r amlwg. Wnes i hyn gan ennill profiad mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol mewn ysbytai ac yn y gymuned leol, mewn lleoliadau addysg nyrsio mewn prifysgolion. Wnes i gynorthwyo llawer o fenywod i esgor eu babanod a chroesawu bywydau newydd i deuluoedd, ac mae'n debyg fy mod wedi gofalu am filoedd o bobl wrth wneud hynny. Fy mhenderfyniad cychwynnol i ddechrau gyrfa mewn nyrsio oedd fy nhocyn aur i brofiad breintiedig iawn mewn gwirionedd, ac i ddweud y gwir nid wyf yn difaru un eiliad.

 

Felly, beth yw nyrs? Ni fydd Google yn dweud wrthych chi! Mae'n eithaf hawdd i ddod o hyd i 'beth yw nyrsio' ond yn llawer anoddach i ddod o hyd i ddiffiniad o 'y nyrs'. Ond dwi'n meddwl mod i'n gwybod. Dwi wedi dysgu, mai person sy'n gallu 'gweld' pobl yw ‘nyrs’. Person sy'n defnyddio ei sgiliau i ddeall pobl ydyw, ac yn helpu'r bobl hynny i barhau ar eu taith trwy fywyd, lle bynnag y bydd hynny’n eu cymryd.

 

O ystyried fy siwrnai eithaf amrywiol o ran yr amrywiaeth o brofiadau, mae'r diffiniad hwn yn berthnasol heb eithriad. Ar hyn o bryd mae gen i’r fraint lwyr o fod yn arwain canolfan addysg nyrsio newydd ym Mhrifysgol Wrecsam, yn ôl yn agos at y lle y dechreuais i yn 1989.

 

Rydyn ni’n dod ag addysg nyrsio yn ôl yn nes adref i bobl sy'n byw yn ardal ganolog gogledd Cymru, gan ei wneud yn ddewis gyrfa hawdd ei gyrraedd, yn union fel yr oedd i mi pan ddechreuais i ar fy siwrnai.

 

O’r diwrnod cyntaf, mae brwdfrydedd a chymhelliant ein cymuned o fyfyrwyr wedi fy rhyfeddu, ac i fod yn gwbl onest mae wedi bod yn fodd imi deimlo’n ostyngedig ar adegau. Mae’n amlwg pa mor bwysig yw dechrau ar y daith hon a’r llwybr gyrfa hwn i’n myfyrwyr, ac mae pob un ohonyn nhw wedi gweithio’n galed i gyrraedd y lle y maen nhw am fod.

 

Mae llawer wedi aberthu ac mae pob un yn dangos ymrwymiad i ofal sy’n amlwg. Maen nhw am wneud gwahaniaeth, ac mae cael y cyfle i wneud hyn yn ein hardal leol yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. Er bod pob un o’n myfyrwyr yn dilyn rhaglen benodol o addysg, fel unigolion maen nhw i gyd yn wahanol. Mae’r profiad sy’n cael ei rannu yn cael ei ffurfio gan gyd-destun personol, a gwaith ein tîm ni yw gweld hynny a’u tywys nhw ar hyd y ffordd. Rydyn ni, fel nyrsys, yno i arfogi nyrsys y dyfodol â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, heb golli golwg bobl ar y bobl ydyn nhw yn y broses. Fel nyrsys gallwn wneud hynny, ac rydyn ni’n ei groesawu!

 

Felly, dyna beth yw nyrs—rydyn ni’n gweld pobl, rydyn ni’n defnyddio ein sgiliau i ddeall pobl, ac rydyn ni’n helpu pobl i barhau â’u taith, beth bynnag, a lle bynnag y bo hynny.

 

Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn nyrsio, ystyriwch hynny. Nid yw’n ymwneud â’r arian, er dwi’n cytuno, mae angen inni gael ein had-dalu’n deg. Nid yw'n ymwneud â bod yn arf bargeinio gwleidyddol. Mae'n ymwneud â bod yn berson sydd â'r sgiliau proffesiynol i helpu pobl eraill. Mae'n yrfa fendigedig, a fydd yn llawn cyfleoedd, a phrofiadau na fyddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw ar y rhyngrwyd nac mewn rhaglen ddogfen yn gwylio pobl mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae'n gyfle i fod gyda phobl go iawn ar eu taith bywyd go iawn a gwneud gwahaniaeth go iawn.

 

I gael gwybod rhagor am yrfa mewn nyrsio, ewch i'n hadran Ewch i Nyrsio ar y wefan hon.

Ysgrifennwyd a darparwyd y blog hwn gan Alison Lester-Owen, nyrs a phrif ddarlithydd nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam.