Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg hyfforddiant cenedlaethol CMC - 2024

Gofynnir i tua 100,000 o feddygon - hyfforddeion a hyfforddwyr - gymryd rhan yn yr arolwg. Fe'i cynhelir bob blwyddyn a dyma'r mewnwelediad blynyddol mwyaf i addysg a hyfforddiant yn y gweithle.

Mae'r cwestiynau'n ymdrin â meysydd gan gynnwys ansawdd yr hyfforddiant; llwythi gwaith a’r teimlad o orweithio.Yr amser sydd ar gael i gyflwyno neu dderbyn hyfforddiant; mynediad i ystafelloedd egwyl a mannau astudio, ac anghwrteisi ac anfoesgarwch yn y gweithle. Mae arolwg eleni hefyd yn cynnwys cwestiynau

am effaith y pandemig.

Bydd y CMC yn gweithredu ar ganlyniadau ei waith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i ddiogelu ansawdd yr hyfforddiant ac i helpu hyfforddiant i wella ar ôl y pandemig. Mae hynny’n golygu bod amrywiaeth eang o ymatebion, ar draws arbenigeddau a rhanbarthau, yn hollbwysig.

Cymerwch ran heddiw neu ewch i http://www.gmc-uk.org/nts gael rhagor o wybodaeth am sut mae eich atebion yn ysgogi newid.

 

Pryd fydd yr arolwg yn cael ei lansio?

Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn dechrau lansio’r arolwg ar 19 Mawrth 2024. Bydd yr arolwg ar agor am chwe wythnos, ac yn cau ddydd Iau 2 Mai 2023. Y prif nod yw mesur eich canfyddiad o ansawdd yr hyfforddiant yr ydych yn derbyn.  GMC Online Account

 

Sut byddwn yn cysylltu â hyfforddeion?

Bydd angen i hyfforddeion fewngofnodi i gyfrif CMC Ar-lein.

Yna gellir cyrchu'r arolwg hyfforddeion trwy glicio ar y tab 'Fy Arolygon'. Bydd tudalen gyntaf ffurflen yr arolwg yn cael ei llenwi â manylion swydd yr hyfforddai a bydd ond angen i hyfforddeion gadarnhau a yw’r manylion yn gywir neu eu newid os nad ydynt.

 

I ba hyfforddeion mae’n ofynnol i gwblhau'r arolwg?

Mae'r arolwg yn berthnasol i hyfforddeion Arbenigedd Sylfaen, Craidd ac Uwch gan gynnwys Cofrestrydd Arbenigedd (SpR) a hyfforddeion Meddygon Teulu. Yr unig eithriadau i hyn yw SpRs/StRs y dyfarnwyd eu CCT iddynt ond sy’n aros am swydd fel ymgynghorydd, deintyddion, hyfforddeion iechyd cyhoeddus anfeddygol, meddygon nad ydynt mewn swyddi hyfforddi e.e. apwyntiad locwm ar gyfer meddygon gradd gwasanaeth ac ymddiriedolaeth a Hyfforddiant Meddygol, Hyfforddeion MTI. Poblogaethau dan hyfforddiant na fyddant yn cael eu harolygu ond a gesglir gwybodaeth amdanynt yw hyfforddeion sydd ar absenoldeb mamolaeth o 19 Mawrth 2024 neu sydd yn hyfforddeion allan i’r rhaglen,  y tu allan i’r DU, ymchwil y tu allan i raglen, profiad clinigol y tu allan i raglen, neu y tu allan i’r rhaglen seibiant gyrfa.

 

Sut y ceir canlyniadau ystyrlon?

Cyn lansio'r arolwg byddwn yn gweithio gydag arbenigeddau a lleoliadau i godi ymwybyddiaeth. Yn ystod yr arolwg, bydd yr Uned Ansawdd yn monitro'r gyfradd ymateb ac yn gweithio gyda'r arweinwyr arbenigol a'r Canolfannau Ôl-raddedig i atgoffa'r rhai nad atebodd yr arolwg. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg at arolwg hyfforddeion AaGIC.

 

Pryd fydd y canlyniadau ar gael?

Mae'r CMC wedi cynghori y bydd y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd yn haf 2024 (dyddiad terfynol i'w gadarnhau). Bydd AaGIC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau pan fyddant ar gael.

 

Eich barn

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn gydweithio i wella ein cyfradd ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Dyma gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant drwy roi eich barn i CMC ar safon addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu hadrodd yn ddienw.

 

Mwy o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg sydd i ddod, cysylltwch â:

•           Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC): Uned Ansawdd

•           GMC: Ymholiaday arolwg hyyforddiant cenedlaethol