Neidio i'r prif gynnwy

Arddangoswyd ymrwymiad i amrywiaeth ein Rheolwr Rhaglen AHP mewn llyfr newydd

Mae Rheolwr Rhaglen Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru (AHP) Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cael ei ddathlu mewn llyfr newydd sy'n arddangos straeon bywyd menywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae Versha Sood yn un o ddeugain o fenywod sy'n ymddangos yn y llyfr o'r enw 'Seventy Years of Struggle and Achievement:  Life Stories of Ethnic Minority Women Living in Wales’. Mae pawb sy'n ymddangos yn y llyfr wedi cyrraedd y rownd derfynol/enillwyr ar gyfer Gwobr Cyflawniad Merched Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EMWAA) (2011-2019).

Yn ei phennod ‘Developing Care’, mae Versha yn trafod ei bywyd cynnar yn tyfu i fyny yn India, symud i Gymru, ei hangerdd dros helpu pobl a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Yn siarad cyn lansiad y llyfr ym mis Medi 2021, dywedodd Versha “Mae'n anrhydedd cael fy nghynnwys yn y llyfr hwn ochr yn ochr â chynifer o fenywod talentog a dylanwadol eraill.

"Mae wedi fy ngalluogi nid yn unig i rannu fy stori, ond hefyd, gobeithio, ysbrydoli eraill i deimlo eu bod wedi'u grymuso i ddilyn eu hangerdd wrth barhau i wneud gwahaniaeth. Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig darllen teithiau menywod eraill”.

Yn ogystal â'i EMWAA yn y categori Hunan-Ddatblygiad, mae Versha hefyd wedi derbyn Gwobr Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymru, Gwobr Gofal Cenedlaethol, Gwobr Gofal Cenedlaethol, Gwobr Points of Light y Prif Weinidog a gwobr gwasanaeth cymunedol 10 mlynedd ymysg eraill.

Wrth longyfarch Versha ar ei llyfr, dywedodd Wendy Wilkinson, Pennaeth Trawsnewid Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, "Mae wedi bod yn bleser croesawu Versha i Dîm Rhaglen AHP yn AaGIC.

“Mae Versha yn dylanwadu gyda ei gostyngeiddrwydd a’i sensitifrwydd. Mae ei chefndir a'i chyflawniadau wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni ac mae ei hymagwedd gynhenid tuag at amrywiaeth a chynwysoldeb wedi ychwanegu gwerth at ein rhaglen waith.

“Rydym yn falch iawn o'i helpu i ddathlu'r llwyddiant eithriadol hwn”.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Versha a'i thîm yn AaGIC, ewch i dudalennau Proffesiynau Perthynol i Iechyd ar y wefan.