Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn lansio rhaglen fentora optometryddion gyntaf y DU

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) bellach yn cynnig cymorth mentora optometryddion sydd newydd gymhwyso – cyntaf ar gyfer optometreg yn y DU.

Ychydig o gefnogaeth a roddwyd i optometryddion newydd yn y gorffennol ac mae ymchwil yn awgrymu bod hyn yn eu gwneud yn fwy tebygol o gael effaith andwyol ac yn debygol o atgyfeirio cleifion yn ddiangen i'r ysbyty.

Mae tystiolaeth ddiweddar hefyd yn awgrymu bod nifer cynyddol o optometryddion yn gadael eu gyrfa o fewn tair blynedd i fod yn gymwys. Mae AaGIC wedi cymryd camau i wneud newid cadarnhaol drwy gyflwyno rhaglen mentora beilot.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys llwyfan ar-lein i greu portffolio, adolygiadau gan gymheiriaid a grwpiau cefnogi yn ogystal â chyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda mentor dynodedig. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ganlyniadau clinigol, cyngor gyrfaol ac ymarfer myfyriol.

Bydd y cymorth hwn nid yn unig yn rhoi mecanwaith i drafod achosion a gwneud penderfyniadau clinigol gyda mentor profiadol, bydd hefyd yn darparu arwyddbyst ar gyfer llenyddiaeth glinigol a chyngor gyrfaoedd defnyddiol. Dyluniwyd y platfform ar-lein mewn partneriaeth ag uned cymorth ailddilysu AaGIC.

Dywedodd Dr Nik Sheen, arweinydd trawsnewid gofal llygaid yn AaGIC:

Ar adeg pan fo hyder a phrofiad clinigol yn dal i ddatblygu, mae'r cymorth ychwanegol hwn i optometryddion newydd gymhwyso yn rhoi'r hyder a'r offer iddynt wella eu hymarfer, gan roi budd uniongyrchol i ofal cleifion.”

Hannah Jones yw un o'r optometryddion newydd cyntaf i dderbyn y cymorth mentora, a dywedodd:

 “Mewn unrhyw alwedigaeth gofal iechyd, rwy'n credu eich bod yn dysgu'n gyson o brofiadau ymchwil newydd a phrofiadau eraill. Bydd cael mentor yn fy ngalluogi i weld dull optometrydd arall o ymarfer a chreu fy rhai fy hun. Credaf y gallai'r cymorth hwn fod yn fuddiol iawn i optometryddion y dyfodol.

“Mae'r pontio rhwng y cyfnod cyn i optometrydd gymhwyso'n llawn yn frawychus iawn. Mae'n gysur cael mentor y gallwch fynd ati i siarad drwy eich penderfyniadau a gofyn sut y gallech wella yn y dyfodol. Yr wyf yn edrych ymlaen at gael cyngor ar sut y gallaf ddatblygu fy nyfodol ac ennill mwy o gymwysterau.”

Darperir y gwasanaeth am chwe mis pan fydd gwerthusiad llawn o'r prosiect yn cael ei gynnal i benderfynu a fydd yn parhau yn y dyfodol.