Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) arolwg rhanddeiliaid

Fel sefydliad cymharol ifanc ac yn sgil effaith Covid-19, rydym ni’n awyddus i adolygu a pharhau i ddatblygu ein gweithgareddau ymgysylltu i sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu ac yn ymgysylltu mor effeithio â phosib â’n cwsmeriaid, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid.

Mae gweithio mewn partneriaeth a sicrhau ein bod ni’n ymroddedig yn hanfodol er mwyn ein galluogi ni i ddiwallu anghenion gweithlu, gwasanaethau a chleifion y GIG yng Nghymru.

Rydym ni’n cydnabod bod bob amser mwy i’w wneud pan ddaw i waith ymgysylltu, a byddem ni’n hynod ddiolchgar am eich helpu wrth asesu ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran ymgysylltu a llywio ein gweithgareddau yn y dyfodol.

Felly, rydym ni wedi comisiynu Uned Cymorth Comisiynu Canolbarth Lloegr a Sit Gaerhirfryn i gynnal ychydig o ymchwil ymgysylltu ar ein rhan.

Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, rydym ni’n eich gwahodd chi i gymryd rhan yn ein harolwg ymgysylltu. 

Cynhelir yr arolwg ar-lein o 7 Ebrill 2022 tan 29 April 2022 a gallwch gyrchu’r arolwg ar-lein yma.

Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch yn gallu dweud wrthym ni a fyddai diddordeb gennych chi mewn cymryd rhan mewn cyfweliad un i un neu grŵp ffocws. Rydym ni’n croesawu eich barn a’ch adborth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Rydym ni’n gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at gael clywed gennych chi.