Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn penodi Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid newydd

Published 28/03/2024

Heddiw, mae AaGIC wedi cyhoeddi penodiad Dr Ian Mathieson i rôl Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid, yn dilyn proses recriwtio helaeth. Ian fydd y person cyntaf i ymgymryd â'r rôl gyfarwyddwr newydd hon gan sicrhau bod AaGIC yn llywio ac yn arwain yr agenda addysg gofal iechyd yng Nghymru ac ar draws y DU.

Mae Ian yn ymuno ag AaGIC o Brifysgol De Cymru lle mae'n Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu Busnes (Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Mae hefyd yn Gynullydd Cyngor y Deoniaid dros Iechyd Cymru. Ar ôl cymhwyso fel podiatregydd ym 1995, mae Ian yn dod ag ef dros 28 mlynedd o brofiad fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac academydd. 

Wrth gyhoeddi penodiad Ian, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol AaGIC, Alex Howells:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Ian i AaGIC. Gyda'i wybodaeth, ei brofiad a'i ddylanwad helaeth mewn systemau gofal iechyd, addysg a hyfforddiant, mae e mewn sefyllfa dda i arwain ein dull strategol o ymdrin ag addysg gan sefydlu AaGIC fel strategydd addysg GIG Cymru."

Bydd Ian yn ymuno ag AaGIC yn yr haf.

Mae rôl Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid AaGIC yn cwmpasu'r Tîm Comisiynu, Addysg ac Ansawdd, y Tîm Addysg a Hyfforddiant Sylfaen a Chymunedol Aml-Broffesiynol a'r Tîm Efelychu.