Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio arolwg cenedlaethol ar gyfer rhagnodwyr anfeddygol

Cyhoeddedig: 22/03/2024

Rydym yn lansio Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Rhagnodwyr Anfeddygol Annibynnol ac atodol mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol ledled Cymru i gael cipolwg ar y math o gymorth gan gymheiriaid a fyddai fwyaf defnyddiol i chi.

Rhagnodwyr Anfeddygol Gofal Sylfaenol - Arolwg Cenedlaethol Cymru Gyfan

Bydd ymgynghoriad ar agor tan 1af o Fehefin 2024 a bydd gweithdai/gweminarau yn cael eu trefnu i gasglu adborth.

Mae AaGIC a grŵp o Ragnodwyr Anfeddygol ac Annibynnol (NMPs) o bob Bwrdd Iechyd yn datblygu model o gefnogaeth gan gymheiriaid parhaus i bob NMP mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol ledled Cymru. Nod y rhwydwaith hwn fydd helpu'r holl weithwyr proffesiynol hyn i ragnodi'n ddiogel ac yn effeithiol ar hyd eu gyrfa. Bydd hyn yn gwella ansawdd rhagnodi ac yn gwneud y mwyaf o gyfraniad gwerthfawr NMPs i ofal cleifion. 

Yn wir, mae canran gynyddol o ragnodiadau mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn cael eu hysgrifennu gan NMPs (nyrsys/bydwragedd, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, dietegwyr, parafeddygon, podiatryddion, optometryddion, radiograffwyr).

Gall NMP mewn Gofal Eilaidd ddibynnu ar rwydwaith helaeth o gydweithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf a gofyn am gyngor a chymorth gan gymheiriaid. Fodd bynnag, mae NMP mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn aml yn fwy ynysig yn broffesiynol. Mae'r unigedd hwn yn aml yn eu harwain i roi'r gorau i ragnodi gan nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol i wneud hynny'n ddiogel ac yn hyderus.

I gael gwybod mwy, neu i fod yn rhan o'r grŵp llywio, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Rachel Brace (Rachel.brace2@wales.nhs.uk) yn Uned PaCCET yn AaGIC.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Rhagnodwyr Anfeddygol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Presgripsiynwyr Anfeddygol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru