Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd (CU) yn cynnig rhaglen fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru i fferyllwyr newydd eu cofrestru yng Nghymru, gan ddechrau ym mis Medi 2022.
Mae'r rhaglen hon yn rhan o weithredu safonau newydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol fferyllwyr (IETP), a ddechreuodd ym mis Awst 2021 ac sydd i'w gweithredu'n llawn erbyn mis Gorffennaf 2026.
Mae'r rhaglen yn adeiladu ar flwyddyn hyfforddiant sylfaen aml-sector AaGIC ac mae wedi'i hanelu at fferyllwyr sydd newydd eu cofrestru o fis Gorffennaf 2022 ymlaen. Bydd yn cynnig llwybr strwythuredig i ddatblygu cymhwysedd i ddarparu gofal mwy cymhleth i gleifion, gan bontio'r cyfnod i gofrestryddion newydd, hyd nes y caiff y safonau IETP newydd eu gweithredu'n llawn ac yn cyd-fynd â'r agenda 'Cymru Iachach' A Healthier Wales (gov.wales).
Ar gyfer y garfan gyntaf sy'n dechrau yn 2022, bydd AaGIC yn cynnig 40 o leoedd i sectorau sy'n cael eu contractio gan y GIG (fferylliaeth gymunedol a meddygfeydd yn bennaf) a 10 lle i sectorau cyflogedig a reolir gan y GIG (rolau o fewn Ysbytai a Gofal Sylfaenol).
Gweler, wedi’i hatodi, y ffurflen Mynegi Diddordeb ar gyfer rhaglen fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru AaGIC sy’n dechrau ym mis Medi 2022, ar gyfer fferyllwyr newydd gofrestru sy’n gweithio yng Nghymru.
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn fferyllydd dan hyfforddiant cyfredol sydd â diddordeb yn y rhaglen neu'n sefydliad cyflogwr sy'n dymuno cynnig un neu nifer o swyddi.
Os ydych yn gweithio i gyflogwr e.e. fferyllydd/rheolwr cangen, cadarnhewch gyda’ch cyflogwr pwy ddylai lenwi’r ffurflen ar ran y sefydliad.
Sylwch y bydd cynrychiolwyr y tîm dysgu a datblygu yn llenwi'r ffurflen ar ran sefydliad Boots the Chemist ac Avicenna.
Byddem yn argymell bod POB hyfforddai fferyllol sydd â diddordeb yn y rhaglen yn cwblhau cofnod unigol, waeth beth fo'u statws cyflogaeth presennol ers fis Awst 2022.
Bydd y ffurflen ar gael tan hanner nos ar 4 Mawrth 2022 a bydd yn cymryd 5-10 munud i'w chwblhau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch llenwi’r ffurflen hon, anfonwch e-bost at:
Dolen i'r ffurflen:
https://forms.office.com/r/3XhvPUk3K9
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae AaGIC yn defnyddio gwybodaeth bersonol, gweler Privacy Policy - HEIW (nhs.wales).