Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Rhagoriaeth HPMA Cymru eleni.
Mae'r gwobrau, a gynhelir gan y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA), yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith eithriadol adrannau adnoddau dynol ym maes gofal iechyd ledled Cymru.
Un o'r categorïau y mae AaGIC wedi'i roi ar y rhestr fer yw 'profiad o ymgysylltu â chydweithiwr' am eu cyfraniad at rymuso staff i greu diwylliant newydd.
Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad ar y rhestr fer, dywedodd Prif Weithredwr AaGIC, Alex Howells, "Fel sefydliad newydd, roedd yn hanfodol ein bod yn adeiladu'r sylfeini cywir ar gyfer y dyfodol drwy ddechrau gyda chyfres glir o werthoedd a grëwyd gan ein staff. Mae'r gwerthoedd hyn wedi bod yn allweddol o ran ein tywys drwy gyfnod o newid sefydliadol sylweddol ac yn sail i'r ffordd rydym yn cydweithio.
"Rwy'n falch iawn o weld bod gwaith a chynnydd ein timau yn cael eu cydnabod mor eang a dymunaf bob lwc iddynt ar gyfer cyhoeddi'r enillwyr.”
Mae'r sefydliad hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
Wedi'i lansio ym mis Hydref 2018, AaGIC yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru, gan chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Cynhelir dathliad gwobrau rhagoriaeth HPMA Cymru ar y 13eg o Dachwedd 2019.
Mae rhestr fer y gwobrau llawn ar gael drwy ymweld â Gwefan HPMA.