Neidio i'r prif gynnwy

Shefin

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Nazia gydag AaGIC.

Enw:                                Shefin

Yn Astudio:                    Cyfrifiannu a Rheoli TG

Prifysgol:                        Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:          Tîm datblygiad digidol

 

Profiad

Fy enw i yw Shefin. Rwyf wrthi’n gwneud fy ngradd meistr mewn Cyfrifiannu a Rheoli TG ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rwyf wedi gwir mwynhau fy amser gyda AaGIC yn gweithio fel datblygwr o fewn y tîm datblygiad digidol yn ystod fy interniaeth 12-mis. Roedd y tîm yn andros o groesawgar ac mae fy rheolwr Gareth a’n mentor Michael wedi bod yn gefnogol iawn wrth arwain fi drwy fy nghyfnod lleoliad.

Drwy’r profiad hwn, rwyf wedi cael gwêl sut i weithio fel rhan o dîm datblygiad digidol. Mae’r profiad hefyd wedi helpu fi ddatblygu sgiliau technegol sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi yn fy ngyrfa yn y sector TG. Rwyf wedi cael amser gwych gyda AaGIC hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn sy’n dod.

 

Crynodeb Prosiect

Fy mhrosiect yw creu gwefan gwirio statws system sy’n monitro statws y 30+ ap a gwefannau sydd wedi eu datblygu gan y tîm digidol yn AaGIC. Bydd PHP (iaith sgript bwrpas-cyffredinol ar gyfer datblygu'r we) a Silverstripe yn cael eu defnyddio i greu’r wefan. Gyda’r wefan hon, bydd defnyddwyr yn gallu gwirio os yw ap/gwefan maent yn ei ddefnyddio yn rhedeg yn llyfn heb broblemau.

Dylai’r wefan leihau'r nifer o docynnau ailadroddus sy’n cael eu codi gyda’r tîm cefnogi TG, yn rhoi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar ddatrys problemau a rhoi platfform i ddefnyddwyr edrych yn sydyn os yw ap/gwefan i lawr, os yw’r tîm gwasanaeth TG yn ymwybodol ac i ddarparu gwybodaeth ar be allent ei wneud yn y cyfamser.

 

Cyflwyno’r Prosiect

Ar gychwyn fy nghyfnod lleoliad, mi wnes i ganolbwyntio ar ddysgu PHP a Silverstripe CMS (system rheoli cynnwys) gan fy mod yn newydd i’r ddau. Y tasgau rwyf wedi eu cwblhau hyd yn hyn yw;

  • Ymchwilio gwefannau gwirio statws sy’n bodoli yn barod
  • Trafod gyda aelodau staff a hefyd aelodau fy nhim er mwyn deall yn iawn gofynion ar gyfer y wefan.
  • Dylunio’r wefan

Rwyf ar hyn o bryd ar y cam o adeiladu’r prosiect.

 

Beth rwyf wedi dysgu

Rwy’n gwerthfawrogi’n arw'r cyfle rwyf wedi ei gael i ddysgu PHP. Iaith rhaglennu yw PHP, a doedd gennyf ddim profiad gyda hi, ond gyda chefnogaeth fy mentoriaid a sgiliau gwybodaeth graidd dysgais yn y brifysgol, rwyf wedi gallu defnyddio PHP i adeiladu fy ngwefan.

 

Tu allan i gwaith a’r Brifysgol

Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau darllen a dawnsio.