Neidio i'r prif gynnwy

Swyddog Diogelwch

Beth yw Swyddog Diogelwch?

Mae Swyddogion Diogelwch yn diogelu’r holl staff, cleifion ac ymwelwyr ar safle’r Bwrdd Iechyd. Prif swyddogaeth eu rôl ydy diogelu pobl ac eiddo’r Bwrdd Iechyd.

Dyma rôl amrywiol iawn sy’n gallu bod yn heriol weithiau ond yn rhoi boddhad mawr. Er bod gan y Swyddogion Diogelwch swyddogaethau cyffredinol fel cloi adrannau, hebrwng staff i ardaloedd lle byddent yn agored i niwed a rhoi cymorth a chyngor mewn argyfyngau, mae angen iddynt fod yn barod i ateb unrhyw alwad am gymorth. Yn aml bydd rhaid iddynt ddefnyddio eu sgiliau i dawelu sefyllfaoedd cythryblus a/neu ddelio ag ymddygiad ymosodol.

Rôl ddiddorol arall ydy monitro camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ac ymateb i adroddiadau o drosedd a.y.b., gan gydweithio â’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân.

Ai Swyddog Diogelwch ydy’r yrfa iawn i mi?

Fel Swyddog Diogelwch mae’n bwysig bod gennych y gallu a’r agwedd i ddelio â phob math o sefyllfa. Bydd angen i chi fod â meddwl agored, bod yn hunanfeddiannol a gweithredu’n broffesiynol ag ymarweddiad awdurdodol ond trugarog ar bob adeg.

Beth mae Swyddogion Diogelwch yn ei wneud?

Gall dyletswyddau a chyfrifoldebau swyddogion diogelwch amrywio ychydig gan ddibynnu ar ba un o safleoedd y Bwrdd Iechyd rydych yn gweithio. Mae’n rhaid i’r staff diogelwch fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r datblygiadau yn y sefydliad a’n rhwymedigaethau ni i’r staff, y cleifion a’r cyhoedd.

Gallai’r prif ddyletswyddau gynnwys:

  • Sicrhau bod y safle a’r eiddo wedi’u diogelu mewn dull priodol ac effeithiol.
  • Atal, canfod ac adweithio’n briodol i weithrediadau troseddol a lled-droseddol yn eiddo’r sefydliad neu yn ei erbyn.
  • Cydweithio â’r Heddlu lle bo angen, gan ddal a chadw rhywun sydd wedi cyflawni trosedd er enghraifft. Gallai’r staff diogelwch helpu ymdrechion yr Heddlu gan warchod safleoedd trosedd tan i’r Heddlu gyrraedd.
  • Rhoi cymorth a chyngor mewn argyfyngau a helpu gweithwyr argyfwng, ee gan gyfeirio’r Gwasanaeth Tân ar hyd y ffordd hawsaf/orau i leoliad y tân neu larwm.
  • Atal damweiniau yn y gwaith gan fod yn ymwybodol o beryglon posib ac adrodd am beryglon i ddiogelwch.

Er nad oes amheuaeth y bydd angen ymyrryd yn gorfforol mewn rhai sefyllfaoedd, ym mwyafrif tasgau’r swyddog diogelwch bydd angen iddo/iddi arsylwi, atal, cofnodi ac adrodd yn unig.

Tasgau eraill sy’n gysylltiedig â’r rôl ydy:

  • Cefnogi’r Swyddogion Parcio i gadw’r mynediad i’r safle a’r allanfeydd yn glir
  • Patrolio’r safle
  • Ymateb i Ddigwyddiadau gan gynnwys atal corfforol lle bo angen
  • Adrodd am Ddigwyddiadau
  • Cyfathrebu
  • Ymchwilio i larymau wedi’u hysgogi
  • Rheoli’r Mynediad a’r Allweddi

Ble mae Swyddogion Diogelwch yn gweithio?

Mae gofyn i Swyddogion Diogelwch weithio ar safleoedd allanol a mewnol y Bwrdd Iechyd, gan ymdopi ag amodau tywydd gerwin yn aml.

Faint mae Swyddogion Diogelwch yn ei ennill?

Yn y GIG, mae swyddog diogelwch yn cael ei dalu ar Fand 3; ewch i’n hadran am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Mae gofyn i’r staff diogelwch ddarparu gwasanaeth 24/7, ac felly bydd hyn yn cynnwys Gwyliau Banc, penwythnosau a chodiad yn y tâl lle bo angen.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Swyddogion Diogelwch gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Gall y cyfleodd am gynnydd droi’n rolau rheoli uwch os bydd yr unigolyn yn gweithio’n galed mewn amrywiaeth o gyrsiau datblygu. Y llwybr naturiol i gynyddu fyddai dyrchafiad o swyddog diogelwch i oruchwyliwr, rheolwr cynorthwyol, ac wedyn rolau uwch. Byddai magu gwybodaeth a phrofiad mewn amrywiaeth mawr o wasanaethau’r cyfleusterau yn fuddiol iawn i gefnogi eich cynnydd.

Sut ydw i’n mynd yn Swyddog Diogelwch?

Bydd angen i chi fod ag addysg o safon dda ac mae llythrennedd a sgiliau cyfathrebu yn hanfodol. Byddai’n fuddiol pe gallech roi tystiolaeth o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd, er nad yw’n hanfodol.

Hefyd, byddai’n fanteisiol bod â phrofiad o wasanaethu cwsmeriaid, tystiolaeth o hyfforddiant mewn ymyrraeth gorfforol a datrys gwrthdaro a phrofiad o ddefnyddio Teledu Cylch Cyfyng.

Ble allwn i gael hyfforddiant yng Nghymru?

Mae sawl cwmni sy’n darparu cyrsiau hyfforddiant sy’n berthnasol i rôl swyddog diogelwch a gellir dod o hyd iddynt ar y we.

Dyma rai cyrsiau a argymhellir:

  • SIA Security Officer Course
  • SIA CCTV Operator Courses
  • Level 3 Award in Physical Intervention Training
  • Hyfforddiant o Wasanaethu Cwsmeriaid

Sut ydw i’n magu profiad?

Nid oes llawer iawn o gyfleoedd i ennill profiad fel swyddog diogelwch yn GIG Cymru, ond dyma rai:

  • Cyflogaeth rhyddhad dros dro
  • Cofrestru ym Manc Staff y Cyfleusterau

Sut ydw i’n ymgeisio am swydd?

Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs; ewch i’n gwefan Gwaith am fwy o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: