Neidio i'r prif gynnwy

Gweinydd Ward

Beth yw Gweinydd Ward?

Mae gweinydd ward yn gweithio gyda thîm y ward i ddatblygu a chynnal y ward i gleifion. Mae’n darparu gwasanaeth cludo bwyd a diodydd cwrtais ac effeithlon o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion cleifion. 

Ai gweithio fel Gweinydd Ward yw’r yrfa iawn imi?

Mae’r gweinydd ward yn gweithio ar ei ben ei hun ar y ward. Bydd y gweinydd yn gweini brecwast, cinio, swper a byrbrydau mewn amgylchedd prysur dros ben.  Bydd y dyletswyddau yn cynnwys gwirio tymheredd bwyd ac oergelloedd gan gofnodi’r tymheredd cyn gweini’r bwyd i gleifion, a glanhau a chynnal ceginau, cypyrddau, celfi gosod ac offer.

I fod yn weinydd bwyd, bydd rhaid ichi fod â:

  • sgiliau cyfathrebu da
  • sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da
  • sgiliau trefnu da
  • gwybodaeth o hylendid bwyd
  • ynghyd â bod yn berson dymunol, caredig a chwrtais

Beth mae gweinwyr ward yn ei wneud?

Mae gweinydd bwyd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Llenwi jygiau dŵr cleifion dair gwaith y dydd i sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr
  • Darparu bwyd a diodydd poeth ac oer i gleifion trwy’r dydd
  • Casglu archebion bwyd cleifion
  • Paratoi hambyrddau cleifion i weini bwyd
  • Dilyn system hambyrddau coch lle y bo’n briodol
  • Gweini bwyd i gleifion ar adegau dynodedig
  • Deall anghenion deietegol cleifion
  • Cofnodi tymheredd bwyd ar y ward
  • Darparu byrbrydau i’r cleifion priodol
  • Golchi llestri’r holl gleifion
  • Cael gwared ar wastraff mewn modd priodol
  • Cynnal lefelau uchel o hylendid bob amser

Ble mae Gweinwyr Ward yn gweithio?

Mae gweinwyr bwyd yn gweithio ar y ward, ond byddant yn cydweithio â’r Adran Arlwyo bob dydd ar faterion sy’n ymwneud â bwydo cleifion.

Faint mae Gweinwyr Ward yn ei ennill?

Yn y GIG, mae gweinwyr ward yn cael eu talu ar Fand 2; ewch i’r adran am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Weinwyr Ward gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Goruchwyliwr Gwasanaethau Gwesty/Gwasanaethau Arlwyo.

Sut alla i ddod yn Weinydd Ward?

Cewch chi hyfforddiant ar y ward. Bydd rhaid ichi fod â lefel dda o addysg a bydd rhaid ichi fod â thystysgrif lefel 2 mewn diogelwch bwyd neu dystysgrif gyfatebol. 

Sut mae ennill profiad?

  • Gwirfoddoli
  • Gwneud cais i weithio yn y Banc Cyfleusterau

Ewch i’n gwefan Gwaith am fwy o wybodaeth.

Sut ydw i’n gwneud cais am swydd?