Neidio i'r prif gynnwy

Trinwyr galwadau

Beth yw Triniwr Galwadau?

Mae Trinwyr Galwadau yn tawelu meddwl cleifion, aelodau o’r teulu, ffrindiau ac aelodau o’r cyhoedd mewn argyfwng meddygol pan fydd angen help fwyaf. Does dim modd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn sifft a bydd yn llawn heriau.

Ai Triniwr Galwadau yw’r yrfa iawn imi?

Mae Trinwyr Galwadau yn delio â galwadau brys 999 oddi wrth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau bod y cymorth iawn yn cyrraedd y claf iawn cyn gynted â phosibl. Mae angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar Drinwyr Galwadau a bydd yn rhaid eich bod y gallu aros yn ddigynnwrf o dan bwysau.

Beth mae Trinwyr Galwadau yn ei wneud?

Mae Trinwyr Galwadau yn cymryd manylion hanfodol am gyflwr claf ynghyd â’u lleoliad ac yn eu mewnbynnu i system gyfrifiadurol. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i Drinwyr Galwadau roi cyngor cymorth cyntaf sylfaenol dros y ffôn mewn sefyllfaoedd sy’n bygwth bywyd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Drinwyr Galwadau gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae cyfleoedd i gamu ymlaen i rôl Arweinydd Sifftiau neu Reolwr Rheolaeth ar Ddyletswydd.  Mae rhai Trinwyr Galwadau hefyd yn camu ymlaen i rolau gweithredol, naill ai’n Gynorthwywyr Gofal Brys neu’n Dechnegwyr Meddygol Brys.

Faint mae Trinwyr Galwadau yn ei ennill?

Band cyflog 3 y flwyddyn ynghyd â thaliadau ychwanegol oherwydd oriau anghymdeithasol, gan ddibynnu ar batrwm y sifftiau. Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Sut y galla i ddod yn Driniwr Galwadau?

Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu.  Byddai angen 5 cymhwyster TGAU neu gymwysterau cyfwerth arnoch chi o leiaf, ynghyd â chymhwyster mewn meddalwedd gyfrifiadurol a sgiliau bysellfwrdd.

Dolen ddefnyddiol: