Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd meddygol brys

Beth yw Technegydd Meddygol Brys?

Mae Technegwyr Meddygol Brys yn rhan o’r tîm gwasanaethau brys, ac maent yn ymateb i alwadau brys 999, gan ddefnyddio goleuadau glas a seiren.

Ai Technegydd Meddygol Brys yw’r yrfa iawn imi?

Mae rhaid i Dechnegwyr Meddygol Brys ymateb i unrhyw sefyllfa feddygol frys, y gall rhai ohonynt beri gofid a chynnwys pobl sydd wedi niweidio’n wael neu sydd wedi dioddef trawma difrifol. Gallant roi cymorth cynnal bywyd datblygedig i gleifion sy’n ddifrifol wael neu sydd wedi eu hanafu, ac mae’r swydd yn rhoi cryn foddhad iddynt. Does dim modd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn sifft a bydd yn llawn heriau.

Er mwyn bod yn Dechnegydd Meddygol Brys, bydd rhaid eich bod:

  • yn ddigynnwrf o dan bwysau
  • yn wydn
  • yn gallu ffynnu ar sail amrywiaeth a sefyllfaoedd sy’n newid
  • yn gyfathrebwr da
  • yn gallu cadw cofnodion yn gywir
  • yn gallu gweithio yn rhan o dîm
  • yn gallu trin offer dechnegol yn dda

Beth mae Technegwyr Meddygol Brys yn ei wneud?

Mae Technegwyr Meddygol Brys yn darparu gofal clinigol effeithiol o ansawdd uchel cyn i gleifion gyrraedd yr ysbyty, ynghyd â chludo cleifion. Maent yn ymateb i achosion brys 999 gan ddefnyddio sgiliau gyrru uwch o dan amodau goleuadau glas, ac maent hefyd yn gyfrifol am symud cleifion rhwng ysbytai, derbyniadau brys i ysbytai ac ymyriadau cleifion eraill sy’n gymesur â’u rôl a’u cyfrifoldebau.

Gan weithio mewn criw o ddau, gall Technegwyr Meddygol Brys ddechrau rhoi gofal priodol a thriniaeth effeithiol i gleifion cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gan ddewis a defnyddio’r sgiliau ac offer addas mewn modd diogel, a hynny o fewn y lefel hyfforddiant, cymhwysedd a chwmpas ymarfer sy’n briodol.

Bydd yn rhaid i recriwtiaid newydd basio cwrs hyfforddiant clinigol dwys gan gynnwys cwrs hyfforddiant goleuadau glas, ynghyd â chwblhau asesiadau chwarterol, er mwyn cymhwyso’n Dechnegydd Meddygol Brys

Ble mae Technegwyr Meddygol Brys yn gweithio?

Mae Technegwyr Meddygol Brys wedi eu lleoli mewn gorsaf ambiwlans, ac fel arfer maent yn cwmpasu ardal ddaearyddol benodol. Maent yn gweithio mewn sifftiau, gan gynnwys yn y nos ac ar y penwythnos a gwyliau banc, felly mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg.

Faint mae Technegwyr Meddygol Brys yn ei ennill?

Band cyflog 4 ynghyd â thaliadau ychwanegol oherwydd oriau anghymdeithasol, gan ddibynnu ar batrwm y sifftiau. Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Sut y galla i ddod yn Dechnegydd Meddygol Brys?

Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu.  Byddai angen addysg o safon resymol arnoch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc mewn Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol), ynghyd â meddu ar C1 a D1 ar eich trwydded yrru.

Dolen ddefnyddiol: