Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru

Bydd y cynllun hwn yn rhoi i chi’r cam cyntaf mewn i reoli’r GIG Cymru - cyfle gyrfa unigryw i wneud gwahaniaeth go iawn.

Dros ddwy flynedd y cynllun, byddwch yn:

  • Ymgymryd â sawl lleoliad, gan weithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol
  • Cwblhau gradd Meistr wedi'i hariannu'n llawn.
  • Derbyn pecyn o ddysgu proffesiynol a fydd yn helpu i wneud y mwyaf o eich datblygiad
  • Golwg 'hofrennydd' ar draws yr holl wasanaethau
  • Cyflog blynyddol o £27,319 ynghyd â nifer o fuddion.
  • Cefnogaeth helaeth gan bobl sy'n arweiniol, a fydd yn eich annog!

Byddwch yn gweithio gyda phobl o bob proffesiwn ac yn meithrin eich sgiliau arwain a rheoli i sicrhau newid o ansawdd uchel a gwelliannau i wasanaethau cleifion.

Gallwch ddisgwyl dysgu ymarferol heriol mewn meysydd megis:

  • Profiad claf
  • Ymgysylltu â staff
  • Ansawdd a gwelliant

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Rydym eisiau raddedigion sydd â thalent a gyriant ac sy'n chwilio am brofiad rheoli ymarferol i dyfu eu cryfderau arwain i wella profiad cleifion.

Bydd angen i chi:

  • Bod yn weithgar
  • Bod yn broffesiynol
  • Sicrhau canlyniadau mewn amgylchedd cymhleth a chyflym

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan Gwella.