Mae Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru yn darparu’r cam cyntaf i chi o fewn rheoli yn GIG Cymru, gan gynnig cyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae’r cyfle dwy flynedd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer darpar arweinwyr GIG Cymru a bydd yn darparu’r canlynol i gyfranogwyr:
- Cyflog blynyddol o £31,946 ynghyd â nifer o fuddion gan gynnwys gwyliau blynyddol â thâl, pensiwn y GIG, mentrau iechyd a lles, gostyngiadau gwasanaeth iechyd a llawer mwy!
- Gradd Meistr wedi’i hariannu’n llawn, wedi’i dylunio a’i chomisiynu ar gyfer y rhaglen
- Nifer o leoliadau, gan weithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol, gan gydweithio ag ystod eang o randdeiliaid ar draws GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cyhoeddus eraill!
- Darperir cymorth helaeth drwy gydol y rhaglen, gydag arweiniad gan reolwyr, mentoriaid, cyn-fyfyrwyr rheoli a chymorth bugeiliol gan arweinwyr sefydliadau a Rheolwr Rhaglen AaGIC.
- Byddwch yn dysgu sut i arwain trwy ddatblygu a gwella eich sgiliau proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a manylion ar sut i wneud cais ewch i wefan Gwella