Neidio i'r prif gynnwy

Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol.

Beth yw Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol?

Mae Cymdeithion Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol (CAAPs) yn weithwyr proffesiynol gofal iechyd arbenigol sy'n gweithio yn y GIG. Yng Nghymru, mae CAAP yn defnyddio sgiliau asesu, fformiwleiddio ac ymyrryd i weithio gydag oedolion ac oedolion hŷn mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys gofal sylfaenol ac eilaidd, dan oruchwyliaeth ymarferydd seicoleg. Nod CAAP yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy hybu lles a lleihau trallod gan ddefnyddio dulliau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Mae CAAP hefyd wedi’u hyfforddi mewn sgiliau arfarnu i’w galluogi i werthuso eu gwaith a gwella’r gwasanaethau y maent yn gweithio ynddynt.

 

Ai Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol yw'r yrfa iawn i mi?

Mae gyrfa fel CAAP yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n dymuno arbenigo mewn gweithio'n glinigol yn y GIG gyda chleientiaid gan ddefnyddio dulliau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n yrfa sy'n addas ar gyfer unigolion tosturiol, chwilfrydig a myfyrgar sy'n gallu gweithio'n annibynnol ac o fewn tîm i wella ansawdd bywydau pobl.

Beth fydda i'n ei wneud?

Ym mlwyddyn gyntaf yr hyfforddiant CAAP, mae myfyrwyr CAAP yn cwblhau gradd meistr un blwyddyn. Yn ystod y flwyddyn hon mae myfyrwyr yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd GIG Cymru ac yn ymgymryd ag ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth ymarferydd seicoleg am dri diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd. Am y ddau ddiwrnod sy'n weddill, mae myfyrwyr yn cwblhau modiwlau academaidd ar theori ac ymarfer seicoleg glinigol ac yn datblygu sgiliau beirniadol ac adfyfyriol i wella dealltwriaeth o ystod o faterion megis pŵer ac amrywiaeth.

 

Ar ôl hyfforddiant, mae CAAP yn parhau i weithio yn y gweithle y buont yn hyfforddi ynddo, gan ddarparu asesiad seicolegol a fformiwleiddiad i ddeall trallod person a defnyddio ymyriadau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, megis therapi ymddygiad gwybyddol, i wella ansawdd bywyd unigolyn.  Gall CAAP weithio'n uniongyrchol gyda chleientiaid, neu'n anuniongyrchol trwy weithio gyda staff, aelodau o'r teulu neu ofalwyr. Gallai CAAP ddarparu ymyriadau unigol neu grŵp fel rhan o'u rôl. Mae CAAP hefyd yn defnyddio eu hyfforddiant mewn dulliau ymchwil i werthuso eu gwaith a'u gwasanaethau ar ffurf prosiectau gwella ansawdd. Disgwylir i CAAP ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol eu gyrfa er mwyn diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau trwy fynychu hyfforddiant pellach sy'n berthnasol i'w gweithle.

 

Ble gallwn i weithio?

Ar hyn o bryd gall CAAP weithio o fewn unrhyw leoliad gofal iechyd oedolion ac oedolion hŷn lle defnyddir dulliau seicolegol a lle gellir darparu goruchwyliaeth reolaidd gan ymarferydd seicoleg. Yn ogystal â gweithio ochr yn ochr ag ymarferydd seicoleg,  gall CAAPs hefyd weithio gyda meddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.

 

Ble mae CAAP yn gweithio?

Mae CAAP yn gweithio mewn  nifer o leoliadau; mae'r meysydd y gall CAAP weithio ynddynt yn cynnwys, ond ddim wedi’u cyfyngu i: dimau iechyd meddwl cymunedol, unedau cleifion mewnol, a gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol.

 

Gallech weithio yn …………………………

Mae hyfforddiant fel CAAP yn dibynnu ar argaeledd cyfleoedd o fewn Byrddau Iechyd GIG Cymru. Bob blwyddyn, bydd y lleoliadau a gynigir ar gyfer hyfforddiant fel CAAPs yn debygol o amrywio yn dibynnu ar ba meysydd darpariaeth iechyd meddwl y mae angen i Fyrddau Iechyd recriwtio. Mae'n debygol y bydd gan y rhan fwyaf o flynyddoedd hyfforddi leoliadau mewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gwasanaethau oedolion hŷn, er yn y dyfodol gall CAAP hefyd weithio mewn meysydd fel: anableddau dysgu; iechyd corfforol; iechyd meddwl amenedigol; fforensig; a/neu niwroamrywiaeth.

 

Faint mae CAAP yn ennill?

Mae CAAP yn dechrau ennill cyflog cyn gynted ag y byddent yn dechrau eu hyfforddiant. Mae CAAP yn cael eu talu ar fand 7 Agenda ar gyfer Newid (AfC), ond tra eu bod yn hyfforddi, mae CAAP yn derbyn ostyngiad cyflog ar rywbeth a elwir yn Atodiad 21.  Mae Atodiad 21 yn golygu, wrth ymgymryd â hyfforddiant, bydd CAAP yn cael eu talu  70%  top Band 7 AfC. 
 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i CAAP i wneud cynydd yn eu gyrfa?

Mae CAAP yn weithlu newydd o fewn Seicoleg yng Nghymru, felly nid yw cyfleoedd cynnydd gyrfa yn hysbys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan fod gan CAAP rôl amrywiol a wobrwyol , a gyda lefelau da o gefnogaeth trwy oruchwyliaeth a gan ei fod yn broffesiwn sy'n talu'n gymharol dda yn y GIG, y gobaith yw y bydd llawer o bobl yn dewis gyrfa hirdymor fel CAAP.

 

Sut ydw i'n dod yn CAAP?

Mae angen i unigolion sy'n dymuno dod yn CAAP gwblhau gradd israddedig sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ar gyfer Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC). Fel arfer, y gofyniad fydd gradd Anrhydedd 2:1 o raglen gradd seicolegol achrededig BPS i fodloni'r gofynion mynediad ar gyfer hyfforddiant CAAP. Os oes gennych chi radd israddedig mewn pwnc gwahanol gallwch ddilyn cwrs trosi mewn seicoleg i ennill y GBC.

Cyn gwneud cais am yr MSc Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol - Rhychwant Oes Oedolion, mae'n ddefnyddiol os bydd yr ymgeiswyr wedi cael profiad o weithio gyda phobl sy'n profi heriau iechyd meddwl, a mewn lleoliad gofal iechyd, yn ddelfrydol.

 

Oes angen gradd arnaf? Oes

 

Ble alla i hyfforddi yng Nghymru? Mae lleoedd hyfforddi fel CAAP ar gael ar draws Byrddau Iechyd Cymru. Ar hyn o bryd mae elfen addysgol yr hyfforddiant yn cael ei darparu gan Brifysgol Caerdydd ond yn y dyfodol bydd yn cael ei ddarparu gan nifer o sefydliadau academaidd. Mae addysgu fel arfer yn gymysgedd o hyfforddiant wyneb yn wyneb ac addysgu ar-lein. Gellir darparu addysgu wyneb yn wyneb mewn bloc addysgu i darfu llai ar leoliadau clinigol. Gall byrddau iechyd ariannu llety a theithio i'r myfyrwyr hynny sy'n byw ymhell o'r cwrs hyfforddi ar gyfer blociau addysgu. 

 

A oes cyllid ar gael? Mae CAAP yn hyfforddiant a ariennir yn llawn, gan gynnwys derbyn cyflog AfC band 7 ar atodiad 21 yn ystod y cyfnod hyfforddi.

 

Sut mae ennill profiad? Byddai unrhyw brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl mewn rôl gynorthwyol yn werthfawr boed fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr. Gallwch wneud cais am swyddi ar wefan swyddi'r GIG. Efallai y byddwch hefyd wedi cael profiad defnyddiol trwy weithio gydag elusen neu ddarparwr gofal cymdeithasol. Efallai y bydd rhai pobl hefyd yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn y GIG yn ystod eu gradd israddedig.

 

Sut mae gwneud cais am swydd? Bydd swyddi'n cael eu hysbysebu ar www.jobs.nhs.uk ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn.

 

 

 

Dolenni defnyddiol

www.jobs.nhs.uk/candidate

www.bps.org.uk