Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd i Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Os nad ydych wedi bod yn ymarfer am fwy na dwy flynedd, bydd angen i chi ddiweddaru’ch sgiliau a'ch gwybodaeth cyn y gallwch chi ail-gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd (CPGI).

Oes rhaid imi wneud y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer?

Yn ôl diffiniad y CPGI, ystyr unigolyn sy’n dychwelyd i ymarfer yw unigolyn nad yw wedi bod yn ymarfer am gyfnod sy’n hwy na dwy flynedd.  Mae hyn yn berthnasol ichi os ydy’ch cofrestriad wedi dod i ben, neu os na chofrestroch chi ar ôl cwblhau eich cymwysterau ac heb ymarfer o ganlyniad i hynny.

Mae’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd yn argymell diweddaru’ch sgiliau a gwybodaeth yn ôl y gofynion hyn:

  • 0-2 flynedd allan o’ch proffesiwn - dim gofynion
  • 2-5 mlynedd allan o’ch proffesiwn - 30 diwrnod o ddiweddaru’ch sgiliau a gwybodaeth
  • 5 mlynedd neu’n hwy allan o’ch proffesiwn - 60 diwrnod o ddiweddaru’ch proffesiwn a gwybodaeth

Mae rhaid i bob Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonydd Gofal Hefyd fodloni gofynion y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Am gyngor ynghylch eich amgylchiadau personol, cysylltwch â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd.

Beth y dylwn i ei ddisgwyl?

  • Bydd bwrsariaeth o £1,000 ar gael i bob un sy’n dychwelyd.  Caiff hyn ei dalu mewn rhandaliadau i’r sawl sy’n dychwelyd bob tri mis trwy gyflogres y Bwrdd Iechyd sy’n cynnal y lleoliad clinigol.
  • Nid yw treth na didyniadau Yswiriant Gwladol yn berthnasol i daliadau bwrsariaeth, oni bai bod y sawl sy’n dychwelyd eisoes wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd mewn swydd arall.

Sut i wneud cais

Os oes angen cyllid, mae rhaid i’r sawl sy’n dychwelyd sicrhau bod Gwasanaethau Gweithlu, Addysg a Gwasanaethau Datblygu’r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn cydsynio cyn ymgymryd â’r gweithgareddau diweddaru.  Gellir gwneud hyn naill ai trwy’r unigolyn sy’n dymuno dychwelyd neu drwy Reolwr y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth.  Er mwyn derbyn caniatâd, e-bostiwch nwssp.wedsedcommissioning@wales.nhs.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw
  • Enw’ch Rheolwr
  • Y sefydliad y byddwch yn cwblhau ei leoliad ynddo
  • Dyddiad dechrau’r lleoliad a’r dyddiad y disgwylir iddo ddod i ben

Ydw i’n gymwys i hawlio costau gofal plant?

Gallwch chi hawlio cymorth ar sail prawf modd ar gyfer costau mynychu lleoliadau clinigol a hyfforddiant gloywi.  Dim ond ar ôl dangos derbynebau perthnasol eich taliadau gofal plant cofrestredig y caiff taliadau eu gwneud. 

Mae Byrddau Iechyd a Phrifysgolion yn ymdrechu i ddarparu dewisiadau hyfforddiant hyblyg a rhan-amser sy’n sensitif i amgylchiadau rhieni sy’n dychwelyd.

I wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant, yn dilyn cytundeb ar gyfer cyllid o’r Gwasanaethau Gweithlu, Addysg a Datblygu, anfonwch e-bost at Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr yn abm.sas@wales.nhs.uk gwasanaeth gyda'r manylion canlynol: 

  • Y sefydliad rydych chi’n astudio ynddo
  • Dyddiad dechrau’r cwrs
  • Eich cyfeiriad cartref
  • Rhif ffôn

Dolenni defnyddiol: