Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd i Ymarfer ar gyfer nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol

Ydy’ch cofrestriad â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi dyddio ac hoffech chi ddychwelyd i ymarfer?

Os felly, mae’n haws nag y byddech chi’n tybio!

Er mwyn cadw’ch cofrestriad â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn gyfredol, mae rhaid i nyrsys, bydwragedd a nyrsys ICCA gwblhau Proses Ail-ddilysu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Ail-ddilysu yw’r broses newydd y mae rhaid i bob nyrs a bydwraig yn y DU ei dilyn er mwyn cadw eu cofrestriad â’r Cyngor yn gyfredol.  Mae esboniad llawn o’r broses ar wefan y Cyngor.

Er mwyn ail-gofrestru/ail-ddilysu am y tair blynedd nesaf, mae rhaid i’r sawl sydd ar y gofrestr ddangos y canlynol:

  • 450 awr o ymarfer, neu 900 os byddwch chi’n adnewyddu’ch cofrestriad fel nyrs a bydwraig.
  • 35 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys 20 awr o ddysgu cyfranogol.
  • Pum darn o adborth sy’n gysylltiedig ag ymarfer
  • Pum darn o ysgrifennu adfyfyriol
  • Trafodaeth adfyfyriol
  • Datganiad iechyd a chymeriad
  • Trefniant indemniad proffesiynol
  • Cadarnhad

Os nad ydych chi wedi cwblhau’r uchod, ond os hoffech chi ddychwelyd i’ch proffesiwn, bydd yn rhaid ichi gwblhau’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Ni waeth am ba mor hir rydych chi wedi bod allan o’r proffesiwn, bydd y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer yn rhoi’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch chi er mwyn ymarfer yn hyderus.

Oes rhaid imi wneud y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer?

Am gyngor ynghylch eich amgylchiadau personol, cysylltwch â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Sut i wneud cais

Os oes angen cyllid, mae rhaid i’r sawl sy’n dychwelyd sicrhau bod Gwasanaethau Gweithlu, Addysgu a Datblygu'r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn cydsynio cyn ymgymryd â’r gweithgareddau diweddaru.  Gellir gwneud hyn naill ai trwy’r unigolyn sy’n dymuno dychwelyd neu drwy Reolwr y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth.  Er mwyn cael caniatâd, e-bostiwch nwssp.wedsedcommissioning@wales.nhs.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw
  • Enw’ Rheolwr
  • Y sefydliad y byddwch yn cwblhau eich lleoliad ynddo
  • Dyddiad dechrau’r lleoliad a’r dyddiad y disgwylir iddo ddod i ben

Beth y dylwn i ei ddisgwyl?

Os cewch chi eich derbyn i wneud cwrs dychwelyd i ymarfer, dylech chi ddisgwyl y canlynol:

  • Y bydd y ffioedd wedi eu talu
  • Bwrsariaeth (£1000 i nyrsys ac ymwelwyr iechyd / £1500 i fydwragedd)
  • Costau gofal plant wedi eu talu (os ydych chi’n gymwys)
  • Lleoliadau wedi eu darparu
  • Cefnogaeth a mentora

Lle gallaf i wneud cais?

Am ragor o wybodaeth am y prifysgolion sy'n cynnig y rhaglen yng Nghymru, am ofynion mynediad a sut i wneud cais, dilynwch ar y dolenni canlynol:

Nyrsys ICCA a Nyrsio:

Bydwragedd:

Ydw i’n gymwys i hawlio costau gofal plant?

Dylai ceisiadau am gymorth â chostau gofal plant gan y rhai sydd wedi sicrhau cyllid oddi wrth GIG Cymru gael eu gwneud yn uniongyrchol i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr abm.sas@wales.nhs.uk.

Fel y gallwn ni ateb eich ymholiad mor gyflym â phosibl, sicrhewch eich bod wedi cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y brifysgol y byddwch chi’n astudio ynddi
  • Dyddiad dechrau’r cwrs
  • Eich cyfeiriad cartref
  • Rhif ffôn

Dolenni defnyddiol: